Merched y Wawr

YM MIS Chwefror daeth Mererid Jones, Felinfach atom i sôn am ailgyl-chu.Llywydd y nos oedd Edith Beynon.Dywedodd Mererid ei bod yn bwysig iawn ailgylchu yn y bagiau iawn. Gwastraff bwyd bob wythnos yn y bin gwyrdd, a bagiau clir gyda defnydd llosgi a bagiau du bob bythefnos.Gellwch ddefnyddio bagiau compostadwy yn y bin gwyrdd, neu bapur newydd. Dim gwydr mewn un bag, mynd a rhain i’r biniau ailgylchu sydd mewn bob tref. Bu’r aelodau yn holi llawer i Mererid, noson dda â phawb wedi dysgu llawer. Cafodd pob aelod fag siopa cotwm a llyfr bach a beiro.Diolchwyd gan Eirlys Morgan a chafwyd te blasus a sawl raffl.Rhoddwyd croeso nôl i Sandra ar ôl ei llawdriniaeth.Balch ydym i llongyfarch Enid a Jacqueline ar ddod yn gyntaf yn y dominos yn y chwaraeon yn Llanina. Byddant yn awr yn mynd ymlaen i Fachynlleth ym mis Mai; hefyd daeth Edith ac Eluned Jones, Nanteos yn drydydd yn y dominos.Nos Fercher, 2 Mawrth, cawsom ein cawl Gwyl Ddewi yn Nhafarn y Bont. Roedd yn hyfryd gweld cymaint wedi dod a llawer gwr daeth.Ein gwraig wadd oedd Sian Lewis o Lanilar, a llywydd y nos oedd Delyth Humphries. Mae Sian yn enwog ym myd y llyfrau. Enillodd wobr Mary Vaughan Jones yn 2015 gyda Chyngor Llyfrau Cymraeg. Pob tair blynedd mae’r wobr yma yn cael ei roi i berson sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig ym myd llenyddiaeth plant yng Nghymru.Mae wedi ysgrifennu tua 250 o lyfrau i blant ac wedi ennill gwobr Tir Na Nog yn 2003.Mae Sian yn aelod gweithgar o Ferched y Wawr Llanilar a hi sy’n gwneud y croesair yn Y Wawr. Cafwyd orig hapus pan fu’n yn sôn am fenywod enwog Cymru, fel y dywysoges Gwenllian, Jemima Nicholas a Mari Jones o’r Bala.Diolchwyd i Sian a Donald Lloyd a staff Y Bont am y cawl hyfryd, tarten afal a the a pice bach gan Eluned Jones, Nanteos.Bu rhai aelodau, trwy wahoddiad cangen Llwynpiod, mewn cawl yn Llangeitho. Diolchwyd gan Anne Gwynne.Bu Aeronwen a Llinos mewn dosbarth gwneud clustogau yng Nghapel Bangor, a llawer eto o grefftau i ddod.Dymunwyd penblwydd hapus arben-nig i Eluned Jones, Nanteos a hefyd llongyfarch Eluned ac Ieuan, Nanteos ar gael gor-wyr bach, mab i Leah a Connor yn Llanybydder, ei enw yw Noa Hedd.Hefyd longyfarchwyd Eluned a Dai John Jones, Hafod Wen ar ddathlu eu priodas aur ar 12 Mawrth ac i Aeronwen Edwards ar gael wyr bach arall, William Aeron., mab i Gareth a Catrin, Esgair Hir.Tro nesa bydd rhaid newid y daith gerdded i Gors Caron hyd 13 Ebrill, gan ein bod wedi cael gwahoddiad gan gangen Tregaron ar 6 Ebrill i arddan-gosfa goginio gan Elwen o Hybu Cig Cymru yn Nhregaron.Bydd yr Wyl Fai yn Neuadd Felinfach ar 14 Mai.