Merched y Wawr
TRWY wahoddiad cangen Tregaron ar 6 Ebrill aeth llawer ohonom i Neuadd Tregaron.Roedd y lle yn llawn; wedi gair o groeso gan Ann Morgan, Tregaron, rhoddodd groeso i Elwen Roberts o Fetws Gwerfyl Goch. Mae Elwen yn arbenigo mewn coginio. Mae’n wyneb cyfarwydd ar raglen Prynhawn Da.Gwnaeth Alwen tri gwahanol saig sawrus ag un melys. Yn y sawrus gwnaeth salsa hyfryd i fynd gyda golwythen cig oen a briwsion bara gyda lemon. Yn ail gwnaeth stir-fry dwyreiniol, a hefyd un saig gan ddefnyddio cig eidion. Diolchodd Elwen i gigyddion Tregaron am y cig hyfryd. I orffen gwnaeth bwdin mefus a mafon hyfryd. Cafodd pob aelod flasu’r cyfan ar y diwedd a chafwyd creision a diod gan MyW Tregaron. Rhoddodd Alwen lawer o’r coginio yn raffl.Mae Elwen yn coginio yn Sioe Llanelwedd bob blwyddyn a hefyd yn mynd dros y dwr yn aml i wneud arddangosfa dramor.Diolchwyd am noson dda gan Eirlys Morgan.Ar 13 Ebrill aeth llawer ohonom i gerdded Cors Caron, ger Tregaron; lle hyfryd i ymlacio a gweld y gwahanol adar, pryfed a phlanhigion nad ydynt i’w gael mewn llawer lle.Mae Iolo Williams wedi bod ar raglen deledu o Gors Caron, ac roedd yn falch iawn o fod wedi gweld yr Eryr Aur. Mae hefyd yn le arbennig i weld y barcud.Yna nôl a ni i’r Clwb Rygbi am bryd o fwyd a diolch i Glenys a’r merched am hynny.Wedi i Enid ddarllen y cofnodion, diolchodd Anne Gwynne i bawb am ddod a’r bwyd hyfryd. Noson allan eto oedd ym mis Mai, i Llanio i weld gardd Yr Efail o eiddo Steve a Shelagh Yeomans. Gwelwyd llawer math o goed a blodau ac roeddynt wedi plannu cannoedd o goed yn y gerllaw.Roedd un ardd gyda llysiau, fel ffa, garlleg betys ac yn y twnnel oedd tatws, betys a llawer baged grog.Wedyn cafwyd agoriad llygaid pan roedd gan Steve ffwrn arbennig yn yr ardd i wneud pizza. Ffwrn wedi ei chodi ar ben waliau o gerrig a thân coed yn y canol. Ar ôl i’r ffwrn gynhesu, roedd yn chwalu’r tân a choginio’r pizzas. Braint ac anrhydedd i ni fel cangen fod Sandra Morris Jones yn cael ei urddo yn Llywydd Cenedlaethol ddydd Mercher, 3 Awst, yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau. Rydym fel cangen yn ei llongyfarch yn fawr ar yr anrhydedd hwn, y cyntaf erioed o gangen Bronant. Edrychwn ymlaen i gyd at fynd i’r eisteddfod a chymryd rhan.Ddydd Sadwrn, 14 Mai, cynhaliwyd yr Wyl Fai blynyddol yn Felinfach a chafwyd cystadlu da.Hyfryd dweud fod Bronant wedi cael gwobrau fel a ganlyn: Aeronwen Edwards, cyntaf, torth fach frown; Dorothy Lewis, ail, bisgedi eidalaidd (biscotti), cystadleuaeth i Sioe Frenhinol oedd hon; Aeronwen Edwards, trydydd, blodyn mewn pot; Aeronwen Edwards, cyntaf, trefniant o flodau coch; a Llinos Jones, trydydd, trefniant o flodau coch. Da iawn ferched.Diolchodd Eirlys Morgan i swyddogion llynedd am raglen ddiddorol.