Merched y Wawr

TRWY wahoddiad i gangen MyW Tregaron ar 6 Ebrill, aeth llawer ohonom lawr i’r neuadd yn Tregaron. Roedd y lle yn llawn. Wedi gair o groeso gan Ann Morgan, Tregaron, rhodd croeso hefyd i El-wen Roberts, Betws Gwenfyl Goch. Mae Elwen yn arbenigo mewn coginio. Mae yn wyneb cyfarwydd ar raglen prynhawn da.Gwnaeth Elwen tri gwahanol saig dawnus ag un melys. Yn y sgwrs gwnaeth salsa hyfryd i fynd gyda galwythen cig oen a brwsion bara gyda lemon. Yn ail, gwnaeth ‘stir fry’ dwyreiniol, ac hefyd un saig wrth defnyddio cig eidion.Diolchodd Elwen gigyddion Tregaron am y cig hyfryd. I orffen, gwnaeth bwdin mefys a mafon hyfryd. Cafodd pob aelod blasu y cyfan ar y diwedd a cafwyd creision a diod gan MyW Tregaron. Rhoddodd Elwen llawer o’r coginio yn y raffl a bu rhai o Bronant yn lwcus. Cafwyd llawer o lyfrau bach o rysetiau ei rhoi hefyd. Mae Elwen yn coginio yn Sioe Llanelwedd bob blwyddyn, ac hefyd yn mynd dros y dwr yn aml i wneud arddangosfeydd tramor. Diolchwyd am noson dda gan Eirlys Morgan. Ar 13 Ebrill, aeth llawer ohonynt i gerdded Cors Caron ger Tregaron. Mae’n le hyfryd i ymlacio ac i weld wahanol adar, pryfed a phlanhigion sydd ddim i’w gweld yn aml.Mae Iolo Williams wedi bod â rhaglen ar y teledu o Gors Caron, ac roedd yn falch iawn gweld yr eryn aur. Mae hefyd yn le arbennig i weld y barcud. Ar ôl hyn, roedd pawb yn barod am bryd o fwyd yng Nghlwb Rygbi Tregaron. Wedi i Enid ddarllen y cofnodion, diolchodd Anne Gwynne i bawb am ddod a’u bwyd hyfryd.Noson allan eto ym mis Mai i Llanio i weld gerdd “Yr Efail” o eiddo Steve a Shelagh Yeomans. Gwelwyd llawer o fathau o goed a blodau. Roedd un gardd llysiau yn llawn ffâ a ganlleg betys, ac yn y twnel oedd tatws, betys a basged grog. Cafwyd agoriad llygaid pan oedd gan Steve ffwrn arbennig yn yr ardd wedi ei chodi ar ben waliau o gerrig a tân coed yn y canol i wneud ‘pizza’. Ar ôl i’r ffwrn gynhesu, roedd yn chwalu tân a coginio y ‘pizza’. Braint ac anrhydedd i ni fel cangen fod Sandra Morris Jones yn cael ei urddo yn llywydd cenedlaethol ddydd Mercher, 3 Awst, yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’y cyffiniau. Mae’r cangen yn ei llongyfarch yn fawr ar yr anrhydedd hwn, y cyntaf erioed o gangen Bronant. Edrychwyd ymlaen i fynd i’r Eisteddfod a cymryd rhan.Dydd Sadwrn, 14 Mai, cynhaliwyd Yr Wyl Fai flynyddol. Yn Felinfach y bu eleni, a chafwyd cystadlu da. Roedd yn hyfryd i’r cangen allu dweud fod Bronant wedi cael gwobrau fel a ganlyn:Aeronwen Edwards, cyntaf am torth fach frown; Dorothy Lewis, ail am bisgedi eidaloedd (biscotti) - cystadleuaeth i Sioe Frenhinol oedd hon.Aeronwen Edwards 3 blodyn mewn pot; Aeronewn Edwards cyntaf am drefniant o flodau coch; Llinos Jones 3 trefniant o flodau coch.Mae’r cangen yn hapus iawn gyda’r gwobrau ac yn llongyfach pawb a gymerodd ran.Diolchodd Eirlys Morgan i swyddogion llynedd am raglen diddorol.