Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Castell Newydd Emlyn ar 15 Gorffennaf.
Yr beiriniaid oedd: Cerdd, Geraint Roberts, Prestatyn; Llefaru, Sian Teifi, Caernarfon; Beirniad Llên, Glenys Roberts, Creigiau. Yr Llywydd Anrhydeddus oedd Cyng Hazel Evans, Castellnewydd Emlyn.
Enillwyr Cystadlaethau Cyfyngedig: Unawd Bl 3 ac iau, Marged Evans; Llefaru Bl 3 ac iau, Marged Evans; Unawd Bl 4, 5 a 6, Lara Thornton; Llefaru Bl 4, 5 a 6, Celyn Davies; Unawd ar Unrhyw Offeryn Cerdd i blant Ysgol Gynradd (Tarian Her er cof am Eluned Gruffydd Schiavone), Gruffydd Rhys Davies.
Cystadlaethau Agored: Unawd Bl 3 ac iau, Nanw Melangell Griffiths-Jones; Llefaru Bl 3 ac iau, Nanw Melangell Griffiths-Jones; Unawd Bl 4, 5 a 6, Gruffydd Rhys Davies; Llefaru Bl 4, 5 a 6, Gruffydd Rhys Davies; Canu Emyn i blant ysgol gynradd, Gruffydd Rhys Davies a Nanw Melangell Griffiths-Jones (cyd); Unawd 12 i 16 oed Ela Mablen Griffiths-Jones; Llefaru 12 i 16 oed, Ela Mablen Griffiths-Jones; Unawd ar unrhyw offeryn cerdd dan 19 oed, Lleucu Thomas; Unawd Alaw Werin dan 19 oed, Ela Mablen Griffiths-Jones; Unawd Cerdd Dant dan 19 oed, Nanw Melangell Griffiths-Jones; Deuawd lleisiol dan 19 oed, Lauren a Leine Jones; Tarian Cerddor Emlyn er cof am y diweddar Wyn Evans i’r cystadleuydd mwyaf addawol o dan 19 oed yn yr Adran Gerdd, Nanw Melangell Griffiths-Jones.
Cystadlaethau Sesiwn yr Hwyr: Unawd dan 25 oed, Daniel O’Callaghan; Cystadleuaeth Eisteddfodau Cymru (Perfformio darn digri) Agored, Peredur Llewelyn; Llefaru dan 25 oed, Daniel O’Callaghan; Canu Emyn dros 60 oed (Cwpan Her y diweddar Alwyn Morgan), Aled Jones; Llefaru darn allan o’r Ysgrythur, Peredur Llewelyn; Parti neu Gôr Lleisiol Lleol, Parti Medeni; Prif Gystadleuaeth Gorawl (Cwpan Her y diweddar Mary Gwynnant Jones), Côr Crymych; Y Gadair, Karina Wyn Dafis, Llanbrynmair; Prif Gystadleuaeth Lefaru neu Gyflwyniad Llafar (Cwpan Her y diweddar Frank James), Carol Davies; Her Unawd (Cwpan Her y diweddar Ben James), Ben Ridler; Unawd Gymraeg wreiddiol (Cwpan Her y diweddar Joan Thomas), Ben Ridler.
Adran Llenyddiaeth: Enillydd y Gadair, Karina Wyn Dafis, Llanbrynmair; Enillydd y Tlws Ieuenctid, Lefi Dafydd, Pontyglasier; Telyneg, John Meurig Edwards, Aberhonddu a Siw Harston, Middlesex (cydradd); Englyn, John Ffrancon Griffith, Abergele; Stori Fer, John Meurig Edwards, Aberhonddu; Darn o Ryddiaith ar y thema Amser, Karina Wyn Dafis, Llanbrynmair; Limrig, Ann Wyn Owen, Caergybi; Brawddeg, Myfanwy Roberts, Llanrwst.