THE latest community news from Blaenplwyf
Cymdeithas yr Hebog ar dramp
FESTRI Tabor oedd y gyrchfan i’r aelodau ar gyfer cwis dan nawdd cymdeithas ddiwylliannol yr ardal ar nos Lun gynta’r mis. Wedi’r siwrnai camwyd i ganol môr o groeso a chafwyd cyfle hefyd i gyfarch cydwahoddedigion o gylch Tregaron.
Yr oedd afiaith heintus rhwng y muriau hynafol ac adroddwyd am rai o’r digwyddiadau nodedig a gynhelid yn y festri mewn oes a fu. Ategwyd y croeso yn ffurfiol gan Eira Hopkins a chydymdeimlodd â Gweinidog yr Ofalaeth, y Parch Nicholas Bee, wedi marwolaeth ei fam yn ddiweddar.
Cyflwynwyd Ifor Morgan, lluniwr y cwis a’r holwr, a chyfeiriodd Eira Hopkins at ei barodrwydd i gynorthwyo bob amser. Mwy o gwestiynau nag o atebion. Fel yna y mae hi yn y byd a dyna oedd yr hanes yn y festri.
Gosodwyd 100 o gwestiynau. Er cnoi cil, crafu pen a phrocio’r cof, digon cyndyn oedd yr atebion ar adegau a hynny ar waetha’r ffaith y rhoddwyd dewis o atebion. Dyfalu fu’r drefn yn aml oherwydd codwyd cwestiynau o feysydd amrywiol. Plethwyd cwestiynau o fyd amaeth â’r gofyn am leoliadau eisteddfodau cenedlaethol, caneuon o sioeau cerdd a’r Swper Olaf. Holwyd hefyd am ddigwyddiadau hanesyddol, geiriau o ieithoedd tramor a’r moroedd.
Cafwyd cip ar y diwylliant Eingl-Americanaidd grymus tra’n ystyried cwestiynau am bobl fel y gantores Adele a J K Rowling. Yr ewffoniwm, lliw’r sêr ar faner a’r darn punt oedd testunau difyr eraill a grybwyllwyd ar y noson.
Diolchwyd ar ran Cymdeithas yr Hebog gan Mary Parry a gwerthfawrogwyd y lluniaeth a baratowyd gan gyfeillion o Gymdeithas Tabor.
Profodd seiniau soniarus yr iaith gyda’r hwyr bod yna werddon o hyd yn Llangwrddon.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]