THE latest community news from Bronant
Merched y Wawr
AR 5 Medi aethom i Libanus 1877, Borth.
Cawsom groeso cynnes gan y perchennog Peter Fleming.
Capel oedd yma o’r blaen ond mae wedi ei addasu; y llawr gwaelod i sinema foeddus iawn, a’r bwyty uwchben.
Cafwyd pryd o fwyd hyfryd a bu y perchennog yn sôn am y gwaith caled oedd i addasu y lle, ac wedi symud pulpud y capel cawsant hyd i focs bren a bu’n dweud yr hanes wrthym.
Rhoddodd ein llywydd eleni, Delyth groeso cynnes i bawb a hyfryd oedd cael tair aelod newydd, Lynwen Jones, Bethan H Williams a Meinir Jenkins.
Dymunir gwellhad buan i Eluned Jones, Nanteos, sydd wedi bod yn yr ysbyty.
Blwyddyn nesaf bydd y gangen yn dathlu 50; llawer o syniadau wedi ei drafod.
Pob dymuniad da i Eirlys Morgan a fydd yn llywydd Rhanbarth MyW, mae Olwen a Jacqueline gyda swydd yn barod.
Rydym wedi cael gwahoddiad oddi wrth ganghennau Y Dderi a Tregaron ym mis Mawrth nesaf.
Tro nesaf ar 3 Hydref: Arwel Jones “O Geredigion i Ohio”, croeso i aelodau newydd.
Diolchwyd gan Edith Beynon. Llongyfarchadau i Dorothy am ennill adran y coginio yn Sioe Tregaron ac Aeronwen am ddod yn ail yn yr ?yl Haf ym Machynlleth a hefyd am ennill llyfr yn croesair Sian Lewis yn Y Wawr.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]