THE latest community news from Bronant.

Prynhawn Goffi Tenovus

AR 30 Medi cynhaliwyd prynhawn goffi ar gampws Rhos y Wlad, Ysgol Rhos Helyg gyda’r arian a gasglwyd yn mynd i elusen Tenovus.

Roedd hi’n brynhawn prysur gyda nifer o’r gymuned leol wedi dod i gefnogi’r achlysur.

Roedd hi’n braf gweld cymaint wedi gwneud ymdrech i ddilyn thema’r prynhawn, gan wisgo dillad pinc neu porffor.

Bu’r plant hyn yn brysur iawn yn ystod y bore, gan bobi bara banana â mafon yn barod i’w werthu, gan greu dipyn o lanast tra wrthi!

Dechreuodd y pnawn am 2yp, a phobl yn hael iawn gyda’u harian o’r dechrau gan brynu llond plât o gacennau ar y tro, ac ambell baned i’w golchi i lawr!

Roedd cyfle hefyd i’r plant gael peintio wynebau ac i bawb gael prynu CD newydd Fflamau Gwyllt, sef band roc yr ysgol.

Roedd y band wedi penderfynu noddi £1 o bob CD a werthwyd i’r elusen ac yn gobeithio cyfrannu mwy unwaith bydd digon o CDs wedi’u gwerthu i gyfro costau’r cynhyrchu.

Er mwyn cloi’r prynhawn, bu’r band yn perfformio rhai o’u caneuon i’r gynulleidfa ar lwyfan awyr agored yr ysgol.

Hyd yma, mae’r safle wedi codi £253.10 o arian tuag at yr elusen.

Diolch i bawb am eu cyfraniadau hael ac mae modd prynu CDs Fflamau Gwyllt drwy gysylltu â’r ysgol.

Mae’r band yn gobeithio cynhyrchu mwy o gopïau, gyda Siop y Bont Bronant, Siop y Pethe Aberystwyth a Siop Elusen Tenovus wedi cynnig eu gwerthu.

Y mwyaf caiff eu gwerthu, y mwyaf fedrwn gyfrannu i’r elusen!

Bydd gig nesaf y band ar 16 Tachwedd pan fydd Siop y Pethe yn ail-agor ar ei newydd wedd.

Hoffai’r ysgol ddangos eu gwerthfawrogiad i bob un a ddaeth i’r achlysur i gefnogi, helpu ac am fod mor barod i wario ar gacennau, paneidiau, peintio wynebau a CDs.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]