THE latest community news from Bronant
Merched y Wawr
YM mis Mehefin daeth y newyddion trist am farwolaeth Megan James, Rowena, aelod gweithgar a ffyddlon yn y gangen.
Cydymdeimlwn yn fawr gyda’i phriod, Gwynfor James a’r merched Elizabeth a Tegwen a’u teulu.
Yng Ngorffennaf bu rhai aelodau yn nhe prynhawn ein llywydd cenedlaethol, Sandra Morris Jones, yng Ngholeg Prifysgol Cymru yn Llambed. Braf oedd gweld Sandra yn bresennol.
Cafwyd amser hyfryd â’r wraig wadd oedd Elin Jones AC Ceredigion.
I ddechrau ein tymor, cawsom daith ddirgel wedi’i threfnu gan ein llywydd eleni, Aeronwen a’n hysgrifenyddes Llinos.
Cyrraedd Henllan, Llandysul ac yno cael ein cyfarch gan Darren Shippy.
Dywedodd ei fod ef a’i deulu wedi bod yn gwneud diodydd, jam a siytni yma ers sawl blwyddyn.
Enw’r cwmni oedd ‘Celteg’ ac mae’r cyfan wedi’u gwneud allan o ffrwythau.
Tu mewn gwelsom yr offer oedd angen i wneud y cyfan a bu Darren yn egluro’n fanwl sut oeddynt yn gweithio. Buom yn blasu llawer o’r cynnyrch.
Roedd y siop yn llawn o’r cynnyrch a buom yn prynu llawer.
Roeddynt yn edrych yn ddeniadol, wedi eu lapio a’u labeli yn hyfryd.
Gwneud anrhegion arbennig ar bob achlysur. Diolchodd Aeronwen am y croeso.
Wedyn, mynd lawr ychydig i’r ail le, i Oriel Gelf Diane Mathias, Plas Waun, Henllan, arlunydd o fri.
Dywedodd ei bod yn hoffi arlunio tirlun, byd natur, pontydd a blodau.
Roedd yr oriel yn llawn o luniau, rhai wedi eu fframio a llawer o’r ardaloedd y ffordd hon.
Rhain hefyd yn anrhegion hyfryd.
Diolchwyd am y croeso.
Wrth i ni orffen ein taith ddirgel, aethon lawr i Llangeler, Sir Caerfyrddin i Amgueddfa am Blentyndod Gorllewin Cymru. Y perchnogion oedd Paul a Hilary Kennelly.
Roeddynt wedi bod yn casglu hen bethau erioed a’u teulu cyn hynny.
Tu ôl i’r ty byw roedd pum uned yn llawn o hen bethau, y rhan fwyaf mewn cypyrddau gwydr mawr a golau gwan i’w cadw’n gras. Roedd yno 10,000 o eitemau gwerthfawr, rhy niferus i’w henwi.
Roedd pawb wedi dotio ar y fath gasgliad.
Cafwyd te yn y caffi ac roedd siop teganau yno, nefoedd i bob plentyn bach.
Diolchwyd am y croeso, ac i Paul a Hilary am eu hamynedd i egluro llawer i ni.
Cawsom swper hyfryd yn Nhafarn y Ram, Llangeler.
Diolch i Aeronwen a Llinos am daith ddirgel hyfryd ac i Gwynfor James am ein gyrru yn ofalus trwy’r dydd.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]