THE latest community news from Bronant
Merched y Wawr
DDECHRAU’R flwyddyn daeth Arwel Jones, Tregaron atom am noson o gadw’n heini.
Llywydd y noson oedd Olwen Jones a diolchwyd gan Jacquline Edwards.
Llywydd y nos ar 7 Chwefror, oedd Eluned Jones, Hafodwen a roddodd groeso i Hefin Jones, aelod o’r heddlu a phencampwr cwn yr Heddlu De Orllewin Cymru a Lloegr.
Diolchwyd gan Enid Humphries.
Dathlwyd Gwyl Dewi ar 7 Mawrth.
Y llywydd oedd Eirlys Morgan a roddodd groeso i Geraint Lloyd, Lledrod.
Mae Geraint yn gefnogol iawn i CFfI Lledrod ac anrhyndedd fawr iddo eleni oedd cael ei ddewis yn llywydd CFfI Cymru.
Y gystadleuaeth oedd ‘Rhywbeth i wneud â’r tywydd’, a enillwyd gan Eluned Jones, Hafodwen oedd wedi gwneud Dyn Eira allan o eira iawn ar hambwrdd gyda het a sgarff.
Diolchwyd i Donald a’r staff Tafarn y Bont am y wledd gan Eluned Jones, Nanteos.
Ar 4 Ebrill, llywydd y noson oedd Dorothy Lewis a roddodd groeso i Meirion Roberts sy’n yn rhedeg Siop Porcell, Bow Street.
Gwelsom Meirion yn tynnu pob asgwrn allan o oen gyfan, yn daclus. Bu llawer o brynu y cig ar y diwedd, a diolchwyd gan Edith Beynon.
Edrychwyd ymlaen i ginio Sandra M Jones ar 14 Ebrill, yng Gwesty’r Emlyn, Castell Neuadd Emlyn.
Balch oeddem o weld Sandra yn ôl gyda ni, hefyd Aeronwen Edwards wedi ei llawdriniaeth a llongyferchir Anne Gwynne am ddod yn hen famgu i Lili Mair.
Trist iawn oedd clywed am farwolaith cyn-aelod ffyddlon, Mair Owen, Penbryn.
Mair oedd ein llywydd cyntaf.
Cydymeimlwn â’i phriod Defi Owen a’r teulu.
Yn ei hangladd yng Nghapel Peniel Blaenpennal, roddodd Anne Gwynne deynged ar ran y gangen.
Bydd y gangen hefyd yn cyfrannu i Ysgol Rhos y Wlad er cof amdani. Atgofion melys amdani.
Aeth rhai aelodau at gangen Llangwyryfon i weld Pethau Olyv.
Roeddynt yn hyfryd a bu llawer o brynu. Diolchwyd gan Eirlys Morgan.
Hefyd buom gyda changen Llanfarian gyda Bois y Gilfach yn diddanu.
Cafwyd cystadleuath gwneud brawddeg o’r gair CILFACH. Daeth Eirlys Morgan yn gyntaf a Dorothy Lewis yn ail.
Diolchwyd gan Aeronwen Edwards.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]