THE latest community news from Llanafan

Merched y Wawr

GYDA’R ysgolion wedi ail-agor a phob gobaith am haf bach Mihangel yn cilio, braf oedd dechrau blwyddyn o weithgareddau amrywiol gyda’r gangen a chael cwmni’n gilydd unwaith eto.

Nos Lun, 11 Medi, oedd noson agoriadol y tymor a daeth criw niferus o’r aelodau ynghyd yn Neuadd Lisburne. Croesawyd pawb yn gynnes gan ein llywydd, Wendy Crockett, a estynodd groeso arbennig i dair aelod ifanc sydd newydd ymuno â ni.

Hyfryd hefyd oedd cael cwmni ffrindiau o gangen Bronant ddaeth atom ni i fwynhau noson o ioga dan ofal y ddihafal Sue Jones-Davies, Aberystwyth.

Bu Sue gyda ni fwy nag unwaith o’r blaen a gyda’i ffordd gartrefol ac agosatoch llwydda bob amser i gael pawb i deimlo’n gyfforddus ac yn barod i roi cynnig ar y symudiadau syml.

Wedi i’r llywydd ei chyflwyno aeth Sue ati i esbonio ychydig am y math o ioga y bydd hi’n ei ddysgu, gan bwysleisio fod pawb o bob oedran yn medru elwa o’r ymarferion, er lles iechyd y corff a’r meddwl.

Cyn bo hir, dan ei chyfarwyddiadau syml roedd pawb yn dechrau ymestyn, ymlacio a rheoli anadl, gan geisio gwrthsefyll y temtasiwn i sbecian ar y lleill!

Clywyd ambell i glec ac ebychiad wrth i gymalau anystwyth ddechrau symud unwaith eto, ond erbyn y diwedd, wedi ailddarganfod cyhyrau anghofiedig, roedd pawb yn teimlo’n well o lawer ac yn barod i ymosod ar y lluniaeth a baratowyd gan yr aelodau.

Gorffennwyd y noson gyda phwyllgor byr i drafod trefniadau’r misoedd nesaf.

Bydd ein cyfarfod nesaf am 7yh nos Lun, 9 Hydref, pryd y byddwn yn ymweld â’r orsaf dân newydd yn Nhrefechan.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]