THE latest community news from Llandysul
Church Services
SUNDAY, 26 August – Llandysul: 8am, communion; 11am, communion.
Bangor Teifi: 2pm, communion and baptism.
Agor y llyfr
BYDD cyfarfod yng Nghapel Seion ar nos Lun, 3 Medi, am 7yh; cyfle gwych i gymryd rhan mewn Stori’r Beibl drwy ddysgu plant yn yr ysgol gynradd.
Half Moon
AN evening of bingo and pizza for the whole family on Wednesday, 12 September, at 6.30pm, with all proceeds going to Calon Tysul.
Calon Tysul
CHILDREN aged 16 and under are able to swim for free at the pool during the summer holidays.
Children aged eight and over do not have to be accompanied by an adult in the water.
Merched Cylch Cletwr
THE next meeting will be a craft evening on Wednesday, 5 September, at 7pm at Tynewydd, Gorrig and a meal from the Chinese.
Eisteddfod
BRAF oedd gweld cystadleuwyr lleol yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd - llongyfarchiadau i bawb.
Cytun
CWRDD Diolchgarwch Cymraeg yn yr eglwys ar nos Fercher, 26 Medi, am 7yh.
MyW Llandysul a’r Fro
AR nos Iau, 10 Mai, croesawodd Val, y llywydd, yr aelodau ac aelodau o gangen Merched y Wawr Pencader i’r noson yn y Pwerdy.
Yr awdures Dona Edwards oedd y wraig wadd am y noson.
Diolchwyd iddi am sgwrs ddiddorol gan Ann ar ran cangen Llandysul a gan Yvonne ar ran cangen Pencader.
Diolchwyd i ferched y te, sef Nesta, Eirian a Megan.
Ym Mehefin aeth aelodau’r gangen mewn bws mini’r gymuned Dolen Teifi ar eu taith ddirgel flynyddol.
Cychwynwyd y daith am 9.15yb a theithiwyd tua Thregaron, gan ymweld â siop ac oriel Rhiannon.
Wedi cyrraedd, cafwyd paned a chacennau blasus a sgwrs ddifyr am hanes y cwmni, sy’n enwog am ei gemwaith Celtaidd mewn aur, aur Cymru ac arian gan Rhiannon.
Yna aethom ymlaen i Ganolfan Arddio Newman’s, Capel Dewi, ger Aberystwyth am ginio.
Ar ôl cinio daeth yr haul allan a threuliwyd gweddill y prynhawn yn Aberystwyth, yna am swper yn Llety Parc.
Cyn troi am adre rhoddwyd y diolchiadau am ddiwrnod bendigedig gan Geralyn.
Penwythnos gerdded
DYMA’R drydedd flwyddyn y cynhelir penwythnos gerdded, sy’n cael ei redeg gan gr?p Croeso Cerddwyr Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen.
Mae wyth o deithiau cerdded eleni, yn dechrau gyda thaith gerdded hanes lleol o amgylch Pont-Tyweli ar nos Wener.
Ceir taith gerdded gweithgareddau teuluol mewn coetir ynghyd â thaith gerdded wedi’i hanelu at ddysgwyr Cymraeg o bob gallu ynghyd â theithiau cerdded amrywiol o ran hyd a sgil mewn coetir, dyffrynnoedd afon a’r llwybr arfordirol.
Ar nos Sadwrn, bydd twmpath gyda Erwyd Howells a Bryan Jones yng Ngwesty’r Porth, am 8yh, mynediad £4.
Croeso i bawb.
Mae’r penwythnos yn gorffen gyda te Cymreig yng Ngwesty’r Porth o 4yp, sy’n rhad ac am ddim i gerddwyr gyda thocyn, neu £5 y pen os nad yn cymryd rhan mewn teithiau cerdded.
Ffoniwch 01559 362202 i archebu.
Mae’r teithiau cerdded yn costio £4 y pen os wedi archebu ymlaen llaw neu £5 ar y diwrnod.
Ni chodir unrhyw dâl ar gyfer plant dan 16.
Mae pris y teithiau cerdded yn cwmpasu holl weinyddiaeth a thrafnidiaeth lle bo angen.
Dyddiad cau ar gyfer archebu fydd 14 Medi.
Cefnogir penwythnos gan Cyngor Cymuned Llandysul a Trefnidiaeth Cymunedol Dolen Teifi.
Am fanylion llawn, gweler y wefan www.llandysul-ponttyweli.co.uk
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]