THE latest community news from Rhydyfelin
Cymdeithas Ddiwylliannol yr Hebog
DELYTH Morris Jones o Bonterwyd oedd y cwmni difyr a gafodd yr aelodau yn Festri Gosen ar yr ail nos Fawrth o Dachwedd.
Cyfeiriodd at hanesion di-rif tra’n dangos casgliad o fagiau o bob maint a ddaeth o siopau amrywiol Aberystwyth yn bennaf.
Yr oedd bwrlwm y cyflwyniad yn heintus a llwyddodd i ennyn ymateb cyson gan ei chynulleidfa.
Ar adegau ymddangosai fel consuriwr wrth iddi dwrio mewn bag nodedig er mwyn canfod crair a gyfoethogai’r stori am siop benodol.
Deilliodd nifer o’r straeon o’r cyfnodau a dreuliodd yn troedio palmentydd plentyndod yn Aberystwyth.
Soniodd am y newidiadau ym myd dillad o ganlyniad i ofynion gwahanol y cwsmeriaid a chrybwyllodd am ddyfodiad y siop lanhau dillad.
Amlygwyd y gwrthgyferbyniad rhwng y ddarpariaeth ddigonol yn ardal Ponterwyd â’r siopau atyniadol mewn trefi a dinasoedd ar achlysur trip Ysgol Sul.
Cyflwynwyd hanes cymdeithasol y fro, bron yn ddiarwybod, gan fod y bagiau yn cofnodi trai a llanw siopau yn ystod y 1950au a’r 1960au.
Gwelwyd enghreifftiau hefyd o enwau busnesau yn gymharol ddiweddar a orfodwyd i roi’r gorau i fasnachu oherwydd y wasgfa ariannol ac arferion newydd prynwyr.
Dyma noson pan roddwyd cyfle i gamu ar rai o lwybrau ddoe, ystyried y sefyllfa bresennol a her yfory i siopau’r stryd fawr.
Cadeirydd y gymdeithas, Beti Wyn Emanuel, ddiolchodd i Delyth Morris Jones am gyflwyniad graenus ac ategwyd y gwerthfawrogiad gan yr aelodau.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]