THE latest community news from Trawscoed
Cyngor cymuned
CRYNODEB o faterion a drafodwyd yng nghyfarfod diweddar o’r Cyngor Cymuned.
Goleuadau stryd arfaethedig yn Llanafan: Mae’r polyn yn ei le, er nad yw’r golau wedi cysylltu eto ond gobeithir erbyn diwedd Chwefror bydd y goleuadau hirddisgwyliedig yn goleuo ac y bydd o fudd mawr i drigolion yr ardal.
Draeniau/ffosydd angen sylw o fewn yr ardal: Nifer o ddraeniau a ffosydd wedi gorlenwi neu angen adnewyddu o fewn yr ardal. Sefyllfa ffyrdd: Tyllau dwfwn wedi ymddangos yn ffyrdd yr ardal sydd angen llenwi ynghyd â llinellau ffyrdd angen eu hail-baentio ym mhentrefi’r ardal.
Llwybrau Cyhoeddus Llwybr Awel y Bryn, Llanafan: Derbyniwyd ymateb gan swyddog o Gyngor Sir Ceredigion yn nodi eu bod yn ymwybodol o’r sefyllfa a byddid yn trefnu i’r gwaith gael eu wneud yn fuan.
Llwybr Tynffordd, Cnwch Coch: Yr angen am ail-wneud sticil bren ar y llwybr troed yma, y clerc i gysylltu gyda’r cyngor sir.
Casglu bagiau sbwriel/ailgylchu: Problemau gyda chasgliadau sbwriel/ ailgylchu’n parhau yn Cnwch Coch ac o fewn ardal y Cyngor Bro yn gyffredinol, yn enwedig yn ystod cyfnod o dywydd garw.
Cais Cynllunio: Trafodwyd y cais cynllunio canlynol a chytunwyd i ymadrodd i Gyngor Sir Ceredigion nad oedd gwrthwynebiad gan y Cyngor Bro:
A180990 - Dolau Afon, Llanafan, Aberystwyth. Change of use of agricultural land current used under a Caravan and Camping Club licence for five caravans/motorhomes and 10 camping pitches to 20 mixed use pitches inclusive of a new toilet and shower block located in a portable building. Also installation of a new foul treatment works and soakaways, adjustments to the existing site access.
Ail-wynebu ffyrdd: Er nad yw’r gwaith o ail-wynebu’r ffordd tu ôl i Dafarn y Gors wedi cwblhau eto deallir wrth Gyngor Sir Ceredigion y bydd y gwaith yn cael eu wneud yn fuan.
Cynnal a chadw’r ffyrdd: Adroddwyd bod y cyngor sir wedi bod yn gwneud gwaith ar y ffosydd a’r draeniau wrth Pwllglas a Llwynbrain, Llanfihangel-y-Creuddyn ac wrth ben lôn Sarnau.
Hefyd cwblhawyd y gwaith oedd angen sylw ar y ffordd o Lanfihangely-Creuddyn i Drisant a hefyd trefnodd y cyngor sir i lanhau ochr y ffordd a’r draeniau o Lanfihangely-Creuddyn i Cnwch Coch.
Coed angen sylw o fewn yr ardal: Y coed yng Nghwmrhydyfelin, ar y llaw dde wrth deithio o Lanafan yn tuag at y B4340 yn ymestyn allan ar draws y ffordd yn parhau’n broblem, yn enwedig i gerbydau uchel sy’n cyffwrdd y coed, gan ddymchwel canghennau mawr a brigau ar draws y ffordd sy’n berygl i deithwyr eraill.
Derbyniwyd gwybodaeth wrth y brifysgol yn nodi eu bod yn ymwybodol o’r sefyllfa a gobeithir delio gyda’r mater yn fuan.
Trosglwyddwyd y rhoddion canlynol: £150 tuag at bapur bro’r Ddolen; £25 tuag at y Lleng Brydeinig (£17 am archebu Torch Pabi a £8 o rodd).
Cyfrifon Cyngor Bro Trawsgoed 2017/18: Gohebiaeth wrth Grant Thornton, yr Archwilydd Allanol a benodwyd ar ran Archwilydd Cymru yn nodi bod y cyfrifon wedi cael eu harchwilio ac mae canlyniad yr Archwiliad oedd dyfarniad o archwiliad cymwysedig a dderbyniwyd. Nodwyd y materion a godwyd.
Cyswllt Cwsmeriaid Cyngor Sir Ceredigion: Darllenwyd ohebiaeth wrth Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Cyngor Sir Ceredigion yn cyfeirio at wasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth i drigolion Ceredigion – Porth y Gymuned. Derbyniwyd y cynnig i Gysylltydd Cymunedol lleol ddod i roi cyflwyniad mewn cyfarfod o’r Cyngor Bro.
Hen Ffynnon: Adroddwyd bod yna broblem o dd?r yn rhedeg allan o hen ffynnon y pentre yn rhan uchaf Cnwch Coch ac yn rhewi ar draws y ffordd yn ystod tywydd garw. Deallir bod y Bwrdd D?r wedi ymweld â’r safle ond gan fod tarddiad y d?r o gyflenwad preifat nid cyfrifoldeb y Bwrdd D?r na’r Cyngor Sir oedd y mater. Deallir bod trigolion lleol wedi mynd ati i ddatrys y broblem.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]