Cynhaliwyd Eisteddfod Capel Bryngwenith ar 5 Ebrill, 2024.
Dyma’r canlyniadau
Unawd Blwyddyn 2 ac Iau: 1af, Marged Evans, Penrhiw-pāl; 2il ;Trefor Hatcher Davies, Llanddewi Brefi; 3ydd, Martha Davies, Talysarn
Llefaru Blwyddyn 2 ac Iau: 1af, Marged Evans, Penrhiw-pāl; 2il, Trefor Hatcher Davies, Llanddewi Brefi; 3ydd, Anest Roberts, Llanpumsaint; 4ydd, Tryfan Phillips, Talysarn
Unawd Blwyddyn 3 a 4: 1af, Alaw Freeman, Llanon; 2il, Neli Evans, Talgarreg; 3ydd, Non Thomas, Talgarreg
Llefaru Blwyddyn 3 a 4: 1af, Non Thomas, Talgarreg; 2il, Neli Evans, Talgarreg; 3ydd, Alaw Freeman, Llanon
Unawd Blwyddyn 5 a 6: 1af, Cadi Aur, Penuwch; 2il, Gruff Rhys Davies, Llandyfriog
Llefaru Blwyddyn 5 a 6: 1af, Gruff Rhys Davies, Llandyfriog; 2il, Celyn Davies, Llandyfriog; 2il, Elis Ifan Evans, Talgarreg; 3ydd, Rhun Thomas, Talgarreg; 3ydd, Lydia Mair Evans, Cwmgwaun
Unawd Cyfyngedig Blwyddyn 2 ac Iau: 1af, Marged Evans, Penrhiw-pāl; 2il, Tudur Davies, Blaencelyn
Llefaru Cyfyngedig Blwyddyn 2 ac Iau; 1af Tudur Davies, Blaencelyn; 1af, Marged Evans, Penrhiw-pāl
Unawd Cyfyngedig Blwyddyn 3 – 6: 1af, Neli Evans, Talgarreg; 2il, Non Thomas, Talgarreg; 3ydd, Grug Rees, Talgarreg; 3ydd, Sara Evans, Talgarreg
Llefaru Cyfyngedig Blwyddyn 3 – 6: 1af, Neli Evans, Talgarreg; 2il, Elis Evans, Talgarreg; 3ydd, Grug Rees, Talgarreg
Parti Unsain dan 16: 1af, Parti Talgarreg
Parti Llefaru dan 16: 1af, Parti Talgarreg
Llefaru Blwyddyn 7 – 11; 1af, Magw Fflur Thomas, Llandysul
Darlleniad o’r Ysgrythur oed Cynradd: 1af, Elis Evans, Talgarreg; 2il, Celyn Fflur, Llandyfriog
Darlleniad o’r Ysgrythur oed Uwchradd: 1af, Magw Fflur Thomas, Llandysul
Darlleniad o’r Ysgrythur dros 18oed: 1af, Maria Evans, Rhydargaeau; 1af, Gwendoline Evans, Post Bach
Unawd offeryn cerdd oed Cynradd: 1af, Neli Evans, Talgarreg; 2il, Non Thomas, Talgarreg
Unawd offeryn Cerdd Uwchradd: 1af, Magw Fflur Thomas, Llandysul
Cān Werin dan 16eg oed: 1af, Gruff Davies, Llandyfriog; 2il, Cadi Aur, Penuwch; 3ydd Miriam Hallum, Cwmgwaun
Her Adroddiad dros 21 oed: 1af, Carol Davies, Trebedw; 2il, Gwendoline Evans, Post Bach
Unawd Cerdd Dant dan 16 oed: 1af, Gruff Davies, Llandyfriog; 2il, Neli Evans, Talgarreg; 3ydd, Cadi Fflur, Penuwch; 3ydd, Non Thomas, Talgarreg
Canu Emyn dros 50 oed: 1af, Robert Jenkins, Llanfihangel ar Arth
Deuawd dan 18 oed: 1af, Neli Evans a Non Thomas, Talgarreg; 2il, Miriam ac Erin, Cwmgwaun
Sgen ti dalent cystadleuaeth ar gyfer Clwybiau Ffermwyr Ifanc: 1af, Magw Fflur Thomas, Llandysul, clwb Ffermwyr Ifanc Pontsian
Sgen ti dalent dros 16 oed: 1af, Carol Davies, Trebedw
Her Unawd Gymraeg: 1af, Robert Jenkins, Llanfihangel ar Arth
Llenyddiaeth
Cystadleuaeth Y Gadair. Cerdd ar y testun ‘Cwch’ roedd chwech wedi cystadlu, yn ennill y Gadair oedd – Juan Davies sef Terwyn Tomos, Llandudoch
Englyn ar y testun ‘Elusen’ = Derwydd = Geraint Roberts, Cwmffrwd
Cān Ddigri ar y testun = ‘Clirio’r Atig’ =Boris Sant Steffan= Peter Hughes Griffiths, Caerfyrddin
Brawddeg o’r gair ‘E.M.L.Y.N’ = Eleri= Carys Briddon, Tre’r Ddôl, Ceredigion
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ni ddylw i fod wedi holi’ = Alaw= Megan Richards, Aberaeron
Neges Testun (text ar y ffôn) ar y llythyren ‘C’ = Carwr Cerddi Caeth, Collwr, Cenfigennus
Eisteddfod lwyddiannus dros ben. Y Beirniaid Cerdd oedd Meinir Jones Parry B.Mus, L.R.S.M Caerfyrddin a Llēn a Llefaru y Prifardd fydd yn dod yn Archdderwydd yn ystod 2024 y Dr Mererid Hopwood, Caerfyrddin ac Aberystwyth. Y Gyfeilyddes oedd Lyn James, U.C.W., Dip, Mus., Adpar.
Roedd Y Gadair yn rhoddedig gan Gadeiryd Cyngor Sir Ceredigion sef y Cynghorwr Maldwyn Lewis. Gwaith cain y gadair wedi ei gyflawni gan y Gof a’r Gwneuthurwr Gemwaith, Alec Page, Barley Mow, Llanbedr Pont Steffan.
Gwerthfawrogir gyfraniad hael y Cadeirydd Gloria Evans, Eglwyswrw (Llwchyrhal gynt). Yr Arweinyddion oedd y Parchedig Carys Ann, B.A. Gweinidog Capel Bryngwenith; Geraint James (Arwerthwr Castell Newydd Emlyn); Dafydd James, Bronyglyn, Glynarthen a Clwb Ffermwyr Ifanc Troedyraur; Cafwyd cymorth amhrisiadwy gan y Prifardd Idris Reynolds, Rhian Jones, Wendy a Fflur Williams, Anne Lewis, Jillian Jones, Morfydd Davies, Glenys Williams, Llinos James (Cross) Elonwy James, Rhiannon Price, Brenda Jones, Elsie Evans, Nia ap Tecwyn, Huw a John Adams, Alan Davies a Maldwyn Lewis.
Tynnwyd lluniau y cystadleuwyr gan Barry Adams (Debbie’s Jewellers) Castell Newydd Emlyn.
Gwerthfawrogir pob cyfraniad at lwyddiant yr Eisteddfod, yn arbennig iawn cyfraniad Cronfa James Pantyfedwen, Cwmni Bwyd Castell Howell, a Siop Elusen -Siop ‘Emlyn Circle’.