Cynhaliwyd yr Eisteddfod ar 19 a 20 Ebrill.Y beirniaid eleni oedd: Nos Wener (Lleol) : Cerdd – Beca Fflur Williams, Rhydyfelin. Llefaru: Elliw Dafydd, Silian. Dydd Sadwrn (Agored): Cerdd : Trystan Lewis, Llanfair Talhaearn. Llefaru: Ivoreen Williams, Saron, Rhydaman. Cyfeiliwyd gan Lona Phillips, Abermagwr.
Yr Arweinyddion oedd Catryn Lawrence a Manon Evans (Dydd Gwener), Gregory Vearey-Roberts, Lowri Mair Jones, Llifon Ellis, a Sara Gibson.
Y llywyddion oedd Sion Hurford – nos Wener; Meirion Roberts, pnawn Sadwrn ac Eirwen Hughes (nos Sadwrn). Diolchwn iddynt am eu rhoddion.
Swyddogion y pwyllgor yw: Cadeirydd: Marianne Jones-Powell; Is-gadeirydd: Sara Gibson.Ysgrifennydd : Ceris Gruffudd; Is-ysgrifennydd: Llio Adams; Trysoryddion: Eleri James ac Elin Haf Williams.
Bore Gwener daeth y newydd trist am farwolaeth Gerwyn Powell – gŵr ein Cadeirydd Marianne Jones -Powell ac estynnwn ein cydymdeimladau dwysaf ati.
Ni chafwyd cystadleuwyr o’r ddau Gylch Meithrin oedd yn drueni gan fod y profiad o fod ar lwyfan am y tro cyntaf yn gallu cyfrannu cymaint i brofiad rhai bach. Roedd cryn frwdfrydedd ymhlith disgyblion y ddwy ysgol ac eraill o blant y pentref a da oedd gweld eu parodrwydd byrfyfyr i ddod i gystadlu ar Sgen ti dalent – mae’n amlwg eu bod wrth eu bodd yn perfformio. Diolch i ddisgyblion a staff y ddwy ysgol am eu cefnogaeth.
Dydd Sadwrn cafwyd cystadleuwyr o wahanol bentrefi y dalgylch a da oedd gweld y cystadlaethau uwchradd ac offerynnol wedi denu mwy nag arfer o gystadleuwyr.Diolch i Lucy, Imogen, Abigail a Daisy o Glwb Ieuenctid Penrhyn-coch am gynorthwyo yn y sesiynau.
Enillydd Tlws yr Ifanc (Cerddorol)
Daeth naw ymgais i law - yr enillydd oedd Elain Tanat, o Landre, Aberystwyth, sydd yn astudio cerddoriaeth cyfoes a Chlasurol ym Mhrifysgol Lerpwl. Yn ôl Elain: “Mae’r gerddoriaeth yn ysgafn a chwareus i geisio cynrychioli titw tomos las yn dawnsio, mae’r prif motiff cyntaf yn cynrychioli’r titw tomos las gwreiddiol, yna wrth i fwy o adar ymuno yn y ddawns, mae mwy o fotiffau yn gallu cael ei clywed er mwyn rhoi teimlad o’r adar i gyd yn dawnsio a chwarae efo’i gilydd.” Ei dymuniad yw cyfansoddi - ar gyfer ffilmiau/ teledu a gemau fideo.
Enillydd y gadair
Dyma gadair gyntaf Owain Llywelyn Roberts -anwyd a magwyd yng Ngherrigydrudion. Mae’n briod â Maria ac mae ganddynt dair o ferched, Lleucu, Ela ac Alys. Yn ôl Owain “Yr unig amser dwi wedi mentro o'r ardal ydi i fynychu Prifysgol Cymru Aberystwyth i astudio Cymraeg a Hanes Cymru gan raddio yn y flwyddyn 2000.”
Aeth adref wedyn i weithio yn y cwmni teuluol, sef Teiars Saracens, ac erbyn hyn ef a’i wraig yw perchnogion y cwmni sydd â changhennau yng Ngherrigydrudion, Y Bala, Llangefni a Phwllheli.
Dysgodd gynganeddu pan yn y 6ed dosbarth yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, gan gario mlaen yn y Brifysgol ond ar ôl graddio heb wneud ryw lawer. Ond mi fu iddo ail afael ynddi o ddifrif ar ôl y cyfnod clo cyntaf ac wedi cario mlaen ers hynny gan gwrdd â beirdd Penllyn yn Yr Eagles yn Llanuwchllyn bob nos Fercher. Mae'r Prifardd Elwyn Edwards o'r Bala wedi rhoi arweiniad iddo dros y blynyddoedd. Ei brif ddiddordeb arall ydi tyfu llysiau ar gyfer eu harddangos mewn sioeau ac mae'r tawelwch meddwl mae'n ei gael yn yr ardd yn rhoi amser iddo feddwl am englyn ac ati!
Enillwyr nos Wener
Unawd Meithrin, Caio Vearey-Roberts; Unawd (Dosbarth Derbyn), Leisia Davies; Unawd (Blwyddyn 1-2), Casi Vearey-Roberts; Unawd (Blwyddyn 3-4), Anest Emlyn; Unawd (Blwyddyn 5-6), Ned Williams; Unawd Offeryn Cerdd (cynradd), Jac Jenkins; Unawd Ysgol Uwchradd, Iwan Finnigan; Llefaru (Dosbarth Derbyn), Leisia Davies; Llefaru (Blwyddyn 1-2), Ania Hughes; Llefaru (Blwyddyn 3-4), Sion Gibson; Llefaru (Blwyddyn 5-6), Jac Jenkins; Parti Canu, Côr Ysgol Penrhyn-coch; Parti Llefaru, Ysgol Penrhyn-coch; Sgen ti dalent, Iona Evans; Tlws yr Ifanc (dan 25 oed), Elain Tanat, Llandre.
Dydd Sadwrn
Unawd Dosbarth Derbyn ac Iau, Lowri Jenkins, Clarach; Llefaru Dosbarth Derbyn ac Iau, Roni Gwilym, Rhydyfelin a Lowri Jenkins, Clarach; Unawd Blwyddyn, Greta Mitchell, Capel Dewi; Llefaru Blwyddyn 1, Leusa Jenkins, Clarach; Unawd Blwyddyn 3 a 4, Sion Gibson, Penrhyn-coch; Llefaru Blwyddyn 3 a 4, Now Schiavone, Aberystwyth; Unawd Blwyddyn 5 a 6, Cadi Aur Davies, Pen-uwch; Unawd Ysgol Uwchradd, Iwan Finnigan, Penrhyn-coch; Llefaru Ysgol Uwchradd, Moi Schiavone, Aberystwyth; Unawd Cerdd dant dan 18 oed, Mirain Evans, Llandre; Unawd Alaw Werin dan 18 oed (digyfeiliant), Beca Williams, Rhydyfelin; Unawd Offeryn Cerdd dan 18 oed, Elenor Nicholas, Aberystwyth; Unawd 18-30, Beca Willians, Rhydyfelin; Unawd Sioe Gerdd dan 30 oed, Beca Willians, Rhydyfelin; Canu Emyn dros 60 oed, Aled Jones, Comins-coch, Machynlleth; Alaw Werin (Agored) Cydradd, Beca Williams, Rhydyfelin; Deuawd emyn, Casi a Greg Vearey-Roberts, Penrhyn-coch; Côr, Penrhyn-coch; Sgen Ti Dalent? Dawnswyr Seithenyn bach, Aberystwyth; Unawd Gymraeg, Barry Powell, Llanfihangel-y-Creuddyn; Her Adroddiad (Agored), Maria Evans, Caerfyrddin; Her Unawd – Hunan Ddewisiad, Robert Jenkins, Llanfihangel-ar-arth.
Canlyniadau cyfansoddi: Y Gadair, Owain Llywelyn Roberts, Cerrigydrudion; Englyn, John Ffrancon Griffith, Abergele; Telyneg, Hanna Roberts, Llandaf; Limrig, John Lewis, Llanbadarn Fawr; Cerdd yn ymwneud â byd natur, John Meurig Edwards, Aberhonddu; Brawddeg, Megan Richards, Aberaeron; Stori fer, Anwen Pierce, Bow Street; Erthygl i bapur bro, Carys Briddon, Tre’r-ddôl a Megan Richards, Aberaeron; Adolygiad, John Meurig Edwards, Aberhonddu; Tlws yr Ifanc, Elain Tanat, Llandre.