Cynhaliwyd Treialon Cwn Defaid a Sioe Cwmsychpant a’r Cylch ddydd Sadwrn, 9 Awst.
Llywyddion y dydd oedd Gareth a Sulwen Lloyd, Cwrtnewydd. Roedd holl elw’r dydd yn mynd tuag at Uned Gofal Arbennig Babanod [SCUBU] Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.
Cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn gyda’r haul yn gwenu drwy gydol y dydd.
Lluniau a geiriau gan Nia Davies.
.png?width=752&height=500&crop=752:500)
Meleri Williams gyda’i basged o lysiau a hi hefyd enillodd y cwpan i’r unigolyn â’r marciau uchaf yn yr adran Cynnyrch Gardd. (Nia Davies)
.png?width=752&height=500&crop=752:500)
Erika Davies, enillydd yr Adran Flodau. (Nia Davies)
.png?width=752&height=500&crop=752:500)
Teleri Davies, enillydd yn yr Adran Gelfyddyd Blodau. (Nia Davies)
.png?trim=0,3,0,0&width=752&height=500&crop=752:500)
Wendy Davies gyda’i chacen dathlu a hi hefyd enillodd y cwpan i’r unigolyn â’r marciau uchaf yn yr adran Goginio. (Nia Davies)
.png?trim=0,3,0,0&width=752&height=500&crop=752:500)
Megan Richards, enillydd yr Adran Gwinoedd. (Nia Davies)

Adran yr Hen Beiriannau (Nia Davies)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.