Roedd hi’n ddiwrnod braf iawn i aelodau a chefnogwyr brwdfrydig Rali blynyddol C.Ff.I. Ceredigion ar ddydd Sadwrn, 1 Mehefin.
Enillwyr llynedd, Tregaron, oedd yn cynnal y Rali ac yn chwilio’r anifeiliaid ar gyfer y cystadlaethau barnu, yr holl stiwardiaid, ynghyd â pharatoi’r lleoliad ar gyfer y diwrnod prysur hwn.
Cynhaliwyd y Rali a’r ddawns ar fferm odidog Dolyrychain drwy garedigrwydd Mr a Mrs Ifan a Iona Davies a’r teulu.
Dywedodd llefarydd C.Ff.I Ceredigion: “Mae’r ffederasiwn yn hynod o ddiolchgar iddynt am eu croeso cynnes.
“Hefyd diolch i Lywydd y Dydd, Mr David John Edwards, Sunnyside, am ei bresenoldeb a’i gymorth i’r Rali.
“Diolch i Brif Noddwr y Rali sef cwmni Evans Coaches, a hefyd i noddwyr yr holl gystadlaethau.
“Diolch i Mr Siôn Jenkins, Cathal, am ddarparu gwartheg limousin i feirniadu ac i DAG Jones & Son am fodloni i gynnal y gystadleuaeth ym Mart Tregaron ar nos Fercher y 29 Fai.”
Yn y Rali, a gafodd ei drefnu gan drefnydd y sir, Anne Jones a’r swyddogion gweinyddol a marchnata, Fflur Lewis a Rhiannon Phillips, gwelwyd aelodau o bob cwr o’r sir yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau, sydd heb os, yn ffenest siop i’r 16 o glybiau a wnaeth gystadlu.
Trwy gydol y dydd, roedd yna gystadlaethau yn dangos nifer helaeth o sgiliau – coginio, crefft, gosod blodau, coedwigaeth, cneifio, dawnsio, arddangosfa prif gylch ayyb, ac wedi denu tua 400 o aelodau’r sir gyda Penparc yn ennill y Rali a chlwb Llangwyryfon yn ail.
Y Gwasanaethau Brys oedd thema’r Rali eleni ac fe fydd yr enillwyr i gyd yn cynrychioli Ceredigion yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ym mis Gorffennaf.
Un o uchafbwyntiau’r dydd oedd y seremoni coroni.
Cafodd Mared Lloyd-Jones o glwb Llanddewi Brefi ei choroni yn Frenhines C.Ff.I. Ceredigion am y flwyddyn.
Penodwyd Gwern Thomas, Felinfach, yn Ffermwr Ifanc y flwyddyn a gwelwyd dirprwyon newydd yn camu i’r llwyfan sef Angharad Davies, Penparc, Caryl Morris, Llanddeiniol, Mared Jones, Felinfach a Meleri Morgan, Llangeitho.
Dyma restr o’r enillwyr:
Arddangosfa Ffederasiwn – Llanddewi Brefi; Barnu Gwartheg Limousin –16 oed neu iau – Angharad Lewis Griffiths, Llanddewi Brefi; 21 oed neu iau – Dylan Phillips,Llangwyryfon; 28 oed neu iau – Bedwyr Siencyn, Talybont; Unigolyn Uchaf – Dylan Phillips, Llangwyryfon; Tîm buddugol – Talybont; Cynig Prosiect Neu Gynnyrch Diogelwch Fferm: Dafydd James a Siwan George, Lledrod Coginio – Mirain Griffiths a Dylan Phillips, Llangwyryfon; Gosod Blodau – Cerys Haf Evans, Felinfach; Crefft Cerys Silvestri-Jones, Caerwedros ; Cystadleuaeth yr Aelodau – Felinfach; Dawnsio; – Llanwenog Ar y Newyddion - Llangwyryfon Coedwigaeth Hŷn – Dafydd Jones a Huw Lewis, Trisant Coedwigaeth Iau – Lleucu ac Elli Davies, Penparc; Barnu Defaid Texel – 16 oed neu iau – Teifi Lewis, Llangwyryfon; 21 oed neu iau – Elin Rattray, Trisant; 28 oed neu iau – Sara Jenkins, Talybont ; Unigolyn Uchaf – Elin Rattray Trisant; Tîm – Trisant; Trin Gwlân – Sara Griffiths, Trisant; Sgets gyda Thema Argyfwng - Llangeitho Gêm yr Oesoedd Hŷn – Osian Dafis a Jac Morris, Caerwedros Gêm yr Oesoedd Iau – Eiry Taylor ac Anest Jones, Caerwedros Gwisgo i Fyny – Cai Evans a Ioan Davies, Felinfach Canu – Pontsian; Unigol – Efan Evans, Pontsian; Grŵp - Pontsian Cneifio Defaid 21 oed neu iau – Bedwyr Siencyn, Talybont; 28 oed neu iau – Dafydd Davies, Llangeitho ; Tîm – Lledrod Cneifio Gyda Gwellau – Bedwyr Siencyn, Talybont Barnu Cobïau Adran D – 16 oed neu iau – Swyn Davies Trisant ; 21 oed neu iau – Lisa Jenkins, Pontsian; 28 oed neu iau – Sian Downes, Llangeitho; Unigolyn Uchaf – Swyn Davies, Trisant; Tîm – Llangeitho Arddangosfa Prif Gylch – Llanddewi Brefi Tablo – Penparc Tynnu’r Gelyn – Bechgyn - Troedyraur Tynnu’r Gelyn – Merched – Llanddewi Brefi Tynnu’r Gelyn – Iau – Pontsian Gwneud Arwydd – Felinfach Barnu Stoc – Unigolyn Uchaf 16 oed neu iau – Swyn Davies Trisant; Unigolyn Uchaf 21 oed neu iau – Elin Rattray, Trisant; Unigolyn Uchaf 28 oed neu iau – Bedwyr Siencyn Talybont ; Unigolyn Uchaf yn y Barnu Gwartheg – Dylan Phillips, Llangwyryfon. Unigolyn Gorau am y rhesymau yng Nghymraeg – Teifi Lewis, Llangwyryfon; Clwb Gorau yn y Barnu Stoc – Talybont Ffermwyr Gorau’r Flwyddyn – Mared Lloyd Jones, Llanddewi Brefi a Gwern Thomas, Felinfach Anrheg Goffa W.G.Hughes & W.D. Lewis – Sioned Davies, Llanwenog a Dewi Davies, Llanddeinol Ysgrifennydd Clwb Gorau – Rebeca James Llanddewi Brefi Aelod a dreuliodd yr amser hiraf ar daith ryngwladol – Carys Jones, Bro’r Dderi; Mared Lloyd-Jones, Llanddewi Brefi; Beca Jenkins, Pontsian; Endaf Griffiths, Pontsian ; Glesni Thomas, Pontsian ; Marged Jones, Mydroilyn; Heledd Besent, Mydroilyn; Angharad Evans, Mydroilyn; Elen Rebeca Jones, Llangwyryfon Aelod mwyaf gweithgar y flwyddyn – Siriol Teifi, Pontsian Aelod iau mwyaf gweithgar y flwyddyn – Rhodri Jenkins, Mydroilyn Clwb gorau yng nghystadlaethau’r Sir 2023/24– Buddugwyr – Felinfach, ail fuddugol – Llanwenog Y clwb “bychan” gorau yng nghystadlaethau’r Sir 2023/24 – Llangeitho Talwyd y diolchiadau gan Sioned Davies, Is-gadeirydd y Sir a chyhoeddwyd y canlyniadau terfynol gan Elin Jones, Cadeirydd y Sir. Canlyniadau Terfynol y Rali: 1. Penparc; 2. Llangwyryfon; 3.Llanwenog; 4. Felinfach; 5. Trisant; 6. Llanddeiniol; 7. Llanddewi Brefi; 8. Lledrod; 9. Talybont; 10. Llangeitho. I orffen y diwrnod cafwyd dawns yn Dolyrychain lle daeth y band Newshan, DJ Sgilti a DJ Oily i ddiddanu’r aelodau. Cafodd y penwythnos prysur yma ei gloi gyda Chymanfa Ganu lwyddiannus yng Nghapel Bwchgwynt, Tregaron ar y Nos Sul, gyda Carwen Lloyd yn arwain, a Carys Anne Davies yn cyfeilio ynghyd â Guto Davies ar y drymiau. Artistiaid y noson oedd aelodau Clwb Tregaron, Ysgol Henry Richard ac Ysgol Pontrhydfendigaid. Llywyddion y noson oedd Mr Evan ac Mrs Alis Jones, Derwen Tan’rallt. Ar ddiwedd y gymanfa roedd C.Ff.I. Tregaron wedi paratoi lluniaeth yn Neuadd Goffa Tregaron.