Yng nghyfarfod Cylch Cinio Aberystwyth mis Chwefror yng Ngwesty’r Richmond fe gytunodd yr aelodau yn unfrydol i gefnogi cynnig Dewi Hughes i gyfrannu £500 tuag at gronfa argyfwng y daeargryn yn Nhwrci a Syria.
Elin Mabbutt o Llanbadarn Fawr oedd ein siaradwraig wadd ac wrth ei chyflwyno fe wnaeth John Williams, y cadeirydd, gyfeirio ati fel un o ferched mwyaf gweithgar, prysur a brwd Aberystwyth.
Merch fferm o Lanwrtyd yw Elin ac fe gododd y llen ar ei magwraeth yn y dref hynafol honno ym Mhowys lle cafodd ei haddysg yn yr uned Gymraeg yn yr ysgol gynradd. Gan nad oes ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Mhowys fe wnaeth ei rhieni ei hanfon i Ysgol Maes yr Yrfa, Cefneithin yn Sir Gâr, penderfyniad dewr a olygodd gryn aberth yn ariannol ac amser a ffordd o fyw i’r teulu. Fe olygai hyn deithio yn agos at 80 millltir y dydd a hynny heb unrhyw gymorth na chefnogaeth gan y Cyngor Sir.
Fe dalodd ar ei ganfed yn y pen draw ac roedd yn fawr ei chlod am ansawdd yr addysg a dderbyniodd yno yng nghwm Gwendraeth lle gwnaeth nifer fawr o ffrindiau da, ac wrth gwrs mae ei Chymraeg yn rhugl ac yn loyw.
Does ryfedd ei bod hi o natur weithgar gan fod ei hanes mewn gyrfaoedd gwahanol yn adlewyrchu hynny. Aeth i Brifysgol Caerdydd i astudio y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a chafodd ei hethol yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr. Derbyniodd swydd i redeg canolfan gynadleddau yn Llundain cyn dychwelyd i Gaerdydd i weithio ym maes arlwyo yn Stadiwm y Principality ac yn yr Amgueddfa a Sain Ffagan.
Derbyniodd ei phriod brif swydd arlwyo yn y brifysgol yn Aberystwyth ac erbyn hyn mae’r ddau yn gweithio yn y Coleg ac wedi ymgartrefu yn Llanbadarn Fawr.
Mae ganddynt dri o blant sy’n llwyddiannus iawn ym maes perfformio ac maen nhw’n enwau cyfarwydd ar lwyfannau eisteddfodau a chyngherddau yr ardal.
Talwyd y diolchiadau gan Cyng Gareth Davies, Llanbadarn Fawr a chyfeiriodd at Elin fel person gwerthfawr iawn yn y gymuned gan nodi yn arbennig mai hi sydd wedi arwain yr ymgyrch i geisio diogelu cae chwaraeon yn Waunfawr rhag datblygiad tai.
Enillydd y raffl oedd Dicky Wyn Davies, Penrhyn-coch.
Mae yna edrych ymlaen eiddgar ar gyfer Pared Gŵyl Dewi yn Aberystwyth sydd yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn, 4 Mawrth ac mae’r Cylch Cinio yn cydweithio gyda phwyllgor y pared gyda sawl agwedd o’r trefniadau.
Byddwn yn cyfarfod nesaf ar nos Wener, 10 Mawrth yng Nghlwb Pêl-droed Penrhyn-coch a dosbarthwyd nifer o dasgiau eisteddfodol ar gyfer y noson. Dr Hywel Griffiths fydd yn ymuno â ni ac yn beirniadu’r cynnyrch. Mae’r drws ar agor i aelodau newydd.
Cysyllter â’r ysgrifennydd ar huw_williams1@btinternet.com
Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]