CYNHALIWYD y cystadleuaeth yn Theatr Felinfach dros wyliau’r hanner tymor, gyda 15 o glybiau’r sir yn cystadlu.
Cafwyd cefnogaeth dda gan y clybiau a hefyd ffrindiau’r Mudiad, gan sicrhau bod y theatr yn gyfforddus lawn bob nos.
Rydym yn lwcus iawn bod cyfleusterau fel Theatr Felinfach ar gael i defnyddio a diolchwn i’r holl staff am eu cydweithrediad.
Y clybiau a gymerodd ran oedd Bro’r Dderi, Caerwedros, Felinfach, Llanddewi Brefi, Llangeitho, Llangwyryfon, Llanwenog, Lledrod, Mydroilyn, Penparc, Pontsian, Talybont, Tregaron, Trisant a Throedyraur gyda 139 o aelodau’r sir yn cael y profiad o berfformio ar lwyfan.
Cafodd y beirniad, Rhian Morgan, cryn drafferth i’w gosod gan fod y safon mor uchel.
Ar ddiwedd y noson, dyfarnwyd Llangeitho yn gyntaf, Pontsian yn ail, Talybont yn drydydd, yn bedwerydd oedd Felinfach, Trisant yn bumed gyda Penparc yn chweched.
Yn ogystal â Llangeitho yn ennill tarian coffa D J Morgan, cyflwywyd nifer o wobrau eraill ar ddiwedd y noson olaf.
Yr actor gorau 16 oed neu iau, yn ennill tarian Mr a Mrs Alwyn Evans, oedd Rhys Davies, Llanwenog; ail oedd Sion Evans, Caerwedros; a’r trydydd oedd Ianto Evans, Mydroilyn.
Aeth yr actores orau 16 oed neu iau, ac yn ennill Cwpan Teulu Pantyrodyn, i Cadi Jones, Lledrod; ail oedd Nest Jenkins, Lledrod; a’r trydydd oedd Alaw Fflur Jones, Felinfach.
Yr actor gorau, ac yn ennill Cwpan Coffa Janet Davies, Llanilar, oedd Dewi Jenkins, Talybont; ail oedd Trystan Jones, Caerwedros; a’r trydydd oedd Ifan Davies, Trisant.
Aeth yr actores orau, ac yn ennill Cwpan Coffa Mary Jane Dowling a Tudor Lewis, Gorslwyd, i Rhian Evans, Felinfach; gyda Lia Mair, Mydroilyn yn ail; a Lowri Pugh Davies, Bro’r Dderi, yn trydydd.
Enillwyd Cwpan Coffa D Arthur Davies am y cynhyrchydd gorau gan glwb Pontsian ac aeth cwpan y sgript orau i Penparc.
Clwb Llangwyryfon enillodd Darian Marie Vaughan Jones am y set gorau a chlwb Lledrod am y perfformiad technegol gorau.
Derbyniodd pob un o’r enillwyr fasg o bren i’w gadw o waith Caradog Williams ac rydym yn ddiolchgar i Undeb Amaethwyr Cymru am eu rhoi.
Cynhaliwyd cyngerdd o’r goreuon ar y nos Lun ganlynol yn y theatr.
Diolchwn yn fawr iawn i noddwyr yr wythnos sef NFU Ceredigion Trust Fund ac i Siop Wendy, Blodau’r Bedol, Cigyddion Rob Rattray, Siop Iago a Sarnau Army Supplies am roi prif wobr y raffl bob nos.
Roeddem yn ffodus iawn i gael llywyddion ar gyfer yr wythnos, sef Elaine Lewis, Ponterwyd; Meriel Williams, Derwen Gam; Sandra Jenkins, Llangwyryfon; Delyth Jones, Felinfach; Heledd Gwyndaf, Talgarreg;ac Yvonne Evans, Aberaeron – pob un ohonynt â chysylltiad agos iawn â’r mudiad a’r ardal.
Diolch iddynt am eu cefnogaeth a’u rhoddion hael i’r achos.
Ar nos Wener, yn ogystal â’r dramau, cynhaliwyd cystadleuaeth ‘Amser i Serennu’ gyda Dai Baker, cyn-aelod o CFfI Penybont, Sir Gâr, yn beirniadu.
Dyfarnodd y wobr gyntaf i Llanwenog â’r ail i Bro’r Dderi.
Yn ôl yr arfer ar y nos Lun y gyngerdd o’r tair drama buddugol, cyhoeddwyd enillwyr Aelod Hyn a Iau y Sir.
Angela Evans, Tregaron oedd enillydd Aelod Hyn y Sir ac aeth yr Aelod Iau i Carwyn Hawkins, Felinfach, gyda Caryl Morris, Llanddeiniol yn ail, ac Angharad Davies, Trisant ac Alaw Mair Jones, Felinfach yn gydradd drydydd.
Bydd Clwb Llangeitho yn mynd ymlaen yn awr i gynrychioli Ceredigion yng nghystadleuaeth Ddrama CFfI Cymru, ynghyd â Carwyn ac Angela a thîm Llanwenog yn yr Amser i Serennu.
Cynhelir yr Wyl o Adloniant yn Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog, ar benwythnos cyntaf mis Mawrth.
Dymuniadau gorau i chwi oll a phob lwc ar lefel Cymru.