Ar ôl diwrnod o gystadlu, pencampwyr Mabolgampau Ysgol Botwnnog eleni oedd Meillionydd gyda 621 o bwyntiau. Daeth Mellteyrn yn ail gyda 595 o bwyntiau a Madryn yn drydydd gyda 586.
Meillionydd yw pencampwyr mabolgampau Ysgol Botwnnog eleni



Capteiniaid ac is-gapteiniad Meillionydd: Aimee Jones (is-gapten), Beca Hughes (capten), James Brookes (capten) a Now Williams (is-gapten) gyda’r darian
Llwyddodd tri disgybl i dorri record yn ystod Mabolgampau Ysgol Botwnnog. Roedd Dei Owen (Mellteyrn, chwith) wedi tori dwy record Bl 8, 200m mewn 27.54 a 300m mewn 42.70; Deio Williams (Mellteyrn, canol) yn torri tair record Bl 7, 800m mewn 2.30.25, 1500m mewn 5.24.56 a thaflu picell 19.12m; a Liam Roberts (Madryn, dde) yn torri record taflu pwysau Bl 8 gyda 10.46m







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.