Mae cyfnod cyffrous iawn ar droed ym Mhenweddig wrth i gymuned yr ysgol baratoi i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu’r ysgol.
O fis Medi 2023 ymlaen bydd cyfres o ddigwyddiadau i nodi’r garreg filltir arbennig hon gan ddechrau dydd Sadwrn, 16 Medi gyda phrynhawn agored yn yr ysgol rhwng 12yp a 2yp.
Bydd cyfle i grwydro’r ysgol, hel atgofion a sgwrsio dros baned a chacen. Bydd disgyblion presennol yr ysgol yno i ddiddanu ac i arwwain teithiau tywys o amgylch yr adeilad.
Mae croeso cynnes i bawb, o hen ddisgyblion, staff a ffrindiau’r ysgol.
Yna gyda’r hwyr mi fydd yna Noson Gabaret arbennig iawn yn cael ei chynnal yn Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Noson o ddathlu talentau cyn ddisgyblion yr ysgol ar hyd y blynyddoedd.
Mae’r noson yn cael ei chyd-lynu gan Rhys Taylor a Lowri Steffan ac mae’n rhestr artistiaid yn cynnwys Georgia Ruth, Sam Ebenezer, Mellt, Aled Richards a Mared Emyr i enwi ond rhai.
Bydd Nia Elin a Trystan ab Owen yn arwain y noson ac mi fydd na gyfres o fideos a chyfarchion gan eraill o deulu Penweddig. Dewch yn llu felly i fwynhau a dathlu llwyddianau’r ysgol arbennig hon ar hyd y degawdau.
“Rydym yn edrych ymlaen yn ofnadwy i lwyfannu’r noson arbennig hon a fydd, gobeithio, yn dod â llu o atgofion melys yn ôl i bawb yn y gynulleidfa,” medd Lowri.
“Mae’r ysgol wedi cynhyrchu cymaint o dalent anhygoel ar hyd y blynyddoedd ac mae’n destyn balchder gallu dathlu’r talentau yma mewn noson o’r fath.
“Dewch yn llu – mi fydd hi’n noson i’w chofio”
Mae’r tocynnau ar werth yng Nghanolfan y Celfyddydau a chadwch lygaid ar safle Facebook y dathliadau am wybodaeth pellach.