Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Llanarth ar ddydd Gwener, 13 Hydref a braf nodi iddi fod yn eisteddfod hwyliog a llwyddiannus.
Llywydd yr eisteddfod eleni oedd Geraint Hughes, Peniel, cyn brifathro Ysgol Llanarth. Braf iawn oedd cael cwmni Geraint a’i wraig Sue yn yr eisteddfod prynhawn a gyda’r nos a diolch yn fawr iawn iddo am ei rodd hael.
Yn y prynhawn cynhaliwyd yr adran gyfyngedig gyda Elin Dafydd a Rhian Evans yn beirniadu.
Roedd hi’n bleser gweld disgyblion yr ysgol yn ymroi ar y llwyfan – profiad cyntaf, newydd i nifer fawr ohonynt.
Cafwyd cystadlaethau llefaru a chanu, celf a llawysgrifen.
Rhannwyd Gwobr Sian a Nia Henson, i’r unigolyn gyda’r nifer uchaf o farciau, rhwng Gwenno Jones a Gwennan Jones. A Gwenno, gyda’i phortread o Mam, gipiodd Gadair yr eisteddfod.
Ar ddiwedd y cystadlu Tŷ Llywelyn ddaeth i’r brig ond roedd pawb ar eu hennill o fod wedi dysgu eu darnau, camu ar y llwyfan o flaen cynulleidfa a chymryd rhan. Diolch i athrawon a staff yr ysgol am eu holl waith yn paratoi’r disgyblion.
Arbrawf i Lanarth eleni oedd cynnal yr eisteddfod agored ar y nos Wener yn hytrach nag ar y dydd Sadwrn ac roedd yn arbrawf a brofodd i fod yn lwyddiant. Denwyd niferoedd calonogol i gystadlu yn enwedig yn y cystadlaethau o dan 12 ac roedd y safon yn uchel drwyddi draw. Yr beirniaid oedd Berian Lewis, cerdd; Lowri Steffan, llefaru a Catrin Haf Jones, llên.
Mewn seremoni hyfryd ac yn dilyn beirniadaeth adeiladol a chanmoliaethus gan Catrin Haf, cadeiriwyd Alaw Fflur Jones am ei stori fer Y Pit.
Non Thomas o Dalgarreg dderbyniodd y Cwpan Her sy’n roddedig gan Mr a Mrs Geraint Hughes er cof am y diweddar Mr a Mrs Edwin Hughes, Aberystwyth, i’r llefarydd mwyaf addawol dan 12 oed.
Gwobrwywyd y Cwpan Her er cof am Mr a Mrs Wil Evans, Brynawen, i’r unawdydd mwyaf addawol i Gruffydd Rhys Davies o Landyfriog.
Gwenno Jones, Llanarth, enillodd Cwpan Her Dafydd a John Lloyd Tegfan am ganu’r piano dan 12 oed.
Y dalentog Fflur McConnell, Aberaeron, dderbyniodd Cwpan Her Isabel er cof am ei rhieni, am y perfformiad mwyaf cofiadwy.
Llongyfarchiadau i bawb, a diolch i bawb gefnogodd yr eisteddfod eleni.
Canlyniadau yn gyflawn
Unawd dan 6 oed: 1, Ilan Rhun, Caerfyrddin; 2, Iolo James, Llandysul; cydradd 3, Jasmine Evans, Llanarth a Ffion Llewelyn, Llanwnnen. Llefaru dan 6 oed: 1, Ilan Rhun, Caerfyrddin; 2, Jasmine Evans, Llanarth; 3, Ffion Llewelyn, Llanwnnen.
Unawd 6-8 oed: 1, Neli Evans, Talgarreg; 2, Non Thomas, Talgarreg; cydradd 3, Bethan Llewelyn, Llanwnnen a Lydia Rees, Cross Inn. Llefaru 6-8 oed: 1, Non Thomas, Talgarreg; 2, Neli Evans , Talgarreg; cydradd 3, Heti Evans, Pont-rhyd-y-groes a Bethan Llewelyn, Llanwnnen.
Unawd 8-10 oed: 1, Gruffydd Rhys Davies, Llandyfrïog; 2, Greta Jones, Caerfyrddin; 3, Alaw Freeman, Llanon. Llefaru 8-10 oed: 1, Gruffydd Rhys Davies, Llandyfrïog; 2, Greta Jones, Caerfyrddin; 3, Gwenno Jones, Llanarth.
Canu’r Piano dan 12 oed: 1, Gwenno Jones, Llanarth; 2, Greta Jones, Caerfyrddin; cydradd 3, Angharad Thomas, Llangwyrfon a Gruffudd Rhys Davies, Llandyfrïog. Canu Emyn dan 12 oed: 1, Gruffydd Rhys Davies, Llandyfrïog; 2, Non Thomas, Talgarreg; 3, Sara Lewis, Mydroilyn. Alaw Werin dan 12 oed: 1, Ella Gwen, Blaenpennal; 2, Gruff Rhys Davies, Llandyfrïog; 3, Lydia Rees, Cross Inn. Cerdd Dant dan 12: 1, Greta Jones, Caerfyrddin; 2, Ella Gwen, Blaenpennal; cydradd 3, Sara Lewis, Mydroilyn a Gruff Rhys Davies, Llandyfrïog. Llefaru 10-12 oed: 1, Celyn Fflur Davies, Llandyfrïog; 2, Isaac Rees, Cross Inn. Unawd 10-12 oed: 1, Ella Gwen, Blaenpennal.
Unawd 12-16 oed: 1, Fflur McConnell, Aberaeron. Llefaru 12-16 oed: 1, Fflur McConnell, Aberaeron. Canu Emyn 12-16 oed: 1, Fflur McConnell, Aberaeron. Dweud Jôc: cydradd 1, Neli Evans, Gwenno Jones, Non Thomas, Fflur McConnell. Unawd Alaw Werin 12-16 oed: 1, Fflur McConnell, Aberaeron.
Darllen o’r Ysgrythur dan 16 oed: 1, Fflur McConnell, Aberaeron; 2, Gwenno Jones, Llanarth; 3, Isaac Rees, Cross Inn. Unrhyw Offeryn Cerdd o dan 18: 1, Fflur McConnell, Aberaeron. Cystadeuaeth S’gen ti Dalent: 1, Fflur McConnell, Aberaeron.
Cadair Llenyddiaeth yr Ifanc: 1 ac 2, Alaw Fflur Jones, Felinfach; 3, Lowri Jones, Llanarth. Cerdd Ddigri: 1, Peter Hughes Griffiths, Caerfyrddin; 2, Megan Richards, Aberaeron; 3, J Richard Williams, Llangefni. Limrig: 1 ac 2, Megan Richards, Aberaeron; 3, Susan Rees, Lledrod. Brawddeg: 1, Tesni Peers, Bangor; 2, Megan Richards, Aberaeron; 3, Gaenor Mai Jones, Pentre’r Eglwys.
Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]