BYDD y Sioe eleni yn cael ei chynnal yn y safle arferol sef Botacho Wyn, Morfa Nefyn ar ddydd Llun, Gŵyl y Banc, 6 Mai.
Sefydlwyd Sioe Nefyn yn 1893 gan griw o ffermwyr lleol oedd am arddangos eu anifeiliaid a’u ceffylau.
Cafwyd cae ynghanol tref Nefyn er mwyn cynnal y digwyddiad. Sioe 2024 fydd Sioe rhif 126.
Bydd y cae yn agor i gystadleuwyr am 7yb a’r cystadlu yn dechrau am 10yb.
Mae dosbarthiadau i wartheg, defaid, cefylau, dofednod, cŵn, gwaith llaw a chogino a chreft.
Bydd digon o stondinau masnachol yn gwerthu amrywiaeth o bethau o deganau i dractorau a hefyd pabell greft yn llawn gwaith llaw.
Ymysg y digwyddiadau eleni mae:
Arddangosfa o geir a thractoru: Bydd arddangosfa eang o hen geir a
thractorau o bob math – gwerth eu gweld Arddangosfa gan Bwyellwyr
Gwynedd: Torri a naddu coed o’r safon uchaf gan griw profiadol o dorrwyr a cherfwyr coed.
Ceffylau neidio: Dosbarthiadau ar gyfer ceffylau neidio.
Ffyn bugail: Cystadleuaeth ac arddangosfa ffyn bugail yn y babell grefft
Ffair a phethau i blant: Bydd Jan D Koning yn bresennol gyda ei ffair, cestyll neidio a sleidiau.
Stondinau masnach a stondinau creft: Cyfle i brynu nwyddau a chrefftau o’r safon uchaf gan stondinwyr a chrefftwyr lleol.
Rhywbeth i bawb!
Pris mynediad yw £10 i oedolion, £5 i blant 5-18 oed a phensiynwyr, plant o dan 5 oed am ddim, tocyn teulu (dau oedolyn a dau blentyn o dan 18) £25.
Talu gydag arian neu gerdyn.
Something for everyone at popular show
THIS year’s Nefyn Show is being held at Botacho Wyn, Morfa Nefyn, on Bank Holiday Monday, 6 May.
The show was established in 1893 by a small group of local farmers who wanted to show their horses and livestock. The 2024 Show will be Show number 126!
The gates will be open to competitors at 7am, and the competition starts at 10am.
There will be competitions for catle, sheep, horses, dogs, poultry as well as craft and cookery held throughout the day.
There will be plenty of trade stands selling everything from toys to tractors and a craft tent displaying handicrafts.
Attractions at this year’s show include: Demonstration of vintage cars and tractors: A vast collection of vintage cars and tractors. Truly worth seeing Gwynedd Axemen: Wood cutting and carving by a team of award winning axemen.
Showjumping: Show jumping classes Shepherd’s cooks: An exhibition and competition for shepherd’s crooks which will be held in the craft marquee Fariground and children’s attractions: Jan de Koning’s funfair will be in the showground with a selection of exciting rides. Bouncy castles and slides will also be at the show.
Trade and craft stands: A chance to purchase goods and crafts from local stallholders and crafters. Something for everybody!
Admission is £10 for adults, £5 for children 5-18 years and pensioners, children under 5 go free, whilst a family ticket (2 adults and 2 children under 18) is £25. Payment by cash or card.