Bu’r Sul, 24 Ionawr, yn lwyddiant mawr pryd y cynhaliwyd cystadlaethau Siarad Cyhoeddus Cymraeg CFfI Ceredigion yng Nghampws Coleg Felinfach.

Cafwyd diwrnod hwylus iawn gydag aelodau o 13 o glybiau yn dangos eu doniau wrth gystadlu.

Y clwb a enillodd y nifer mwyaf o bwyntiau dros y pedair adran, ac yn ennill tarian Brynhogfaen gyda 75 o farciau, oedd clwb Llanwenog, gyda Pontsian yn ail gyda 72 marc ac yn ennill Cwpan Coffa Eric Davies, Prengwyn.

Yng nghystadleuaeth y darllen o dan 14 oed ac iau cafwyd 15 o dimoedd yn cystadlu ac yn beirniadu oedd Mr a Mrs Alwyn Evans.

Cadeirydd: 1, Gwion Ifan, Pontsian A; 2, Hanna Davies, Llanwenog A; 3, Enfys Morris, Llangwyryfon. Darllenydd: 1, Beca Jenkins, Pontsian B; 2, Caleb Rees, Pontsian A; 3, Gwion Ifan, Pontsian A. Tîm: 1, Pontsian A; 2, Llanwenog A; 3, Pontsian B.

Bu 16 o dimau o flaen y beirniad Sara Gibson yn y gystadleuaeth 16 oed neu iau.

Cadeirydd: 1, Ffion Evans, Llanwenog B; 2, Elliw Davies, Caerwedros B; cyd 3, Alaw Mair Jones, Felinfach a Cadi Jones, Lledrod B. Siaradwr: 1, Nest Jenkins, Lledrod B; 2, Iwan Evans, Llanwenog B; 3, Gwion Hughes, Mydroilyn A. Diolchydd: 1, Catrin Jones, Lledrod B; 2, Alaw Fflur Jones, Felinfach; 3, Martha Dafydd, Llangeitho. Tîm: 1, Lledrod; 2, Llanwenog B; 3, Felinfach.

Bu 10 tîm yn cystadlu yn y gystadleuaeth Seiat Holi 21 oed neu iau a Meinir Howells oedd yn cloriannu.

Cadeirydd: 1, Nest Jenkins, Lledrod; 2, Rhys Davies, Llanwenog B; 3, Sioned Davies, Llanwenog A. Siaradwr: 1, Meleri Morgan, Llangeitho; 2, Lowri Jones, Lledrod; 3, Elin Calan Jones, Llangwyryfon. Tîm: 1, Lledrod; 2, Pontsian; 3, Llangeitho.

Yn y gystadleuaeth 26 oed neu iau, Siarad ar ôl Cinio, bu naw o dimau yn cystadlu gydag Andrew Jones yn barnu.

Cadeirydd: 1, Cennydd Jones, Pontsian B; 2, Morys Ioan, Caerwedros; cyd 3, Lowri Davies, Llanwenog a Hannah Parr, Llangeitho. Siaradwr: 1, Enfys Hatcher, Llanwenog A; 2, Luned Mair, Llanwenog B; cyd 3, Dyfrig Williams, Llangwyryfon A ac Elin Jones, Llanwenog A. Tîm: 1, Llanwenog A; 2, Pontsian B; 3, Llanwenog B.

Cynhaliwyd cystadleuaeth ychwanegol yn ystod y diwrnod, Ymgeisio am Swydd, a beirniadwyd y gystadleuaeth hon gan Dwynwen Lloyd Llywelyn: 1, Eiry Williams, Llangwyryfon; 2, Megan Jenkins, Llanddewi Brefi.

Diolch yn fawr i Gwasg Gomer, am noddi’r gystadleuaeth; ac i Radio Beca am gyd-weithio gyda’n haelodau i greu’r darllediad cyntaf byw gan swyddogion CFfI Ceredigion. Diolch hefyd i gwmni Deli Ty Croeso am baratoi’r lluniaeth ar y dydd.

Bydd yr enillwyr yn mynd ymlaen i gynrychioli CFfI Ceredigion yng nghystadlaethau Siarad Cyhoeddus Cymru yn Llanelwedd ar 2 Ebrill.