Un o hoelion wyth y Gymraeg, cefnogwyr elusennau’r dref a ffan o Elvis fydd Tywysydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a gynhelir ar ddydd Sadwrn 28 Chwefror 2026.
Mae’r Parêd yn cydnabod ei chyfraniad i fywyd diwylliannol megis gyda phapur bro Yr Angor a chodi dros £140,000 at elusennau yn aml drwy gyngherddau cerddoriaeth Gymraeg.
Rhoddir braint ‘Tywysydd’ ym mhob gorymdaith Gŵyl Dewi ers ei sefydlu yn 2013 a bydd y Tywysydd yn arwain y Parêd drwy dref Aberystwyth. Mae’n arwydd o ddiolch a gwerthfawrogiad cymuned Aberystwyth i berson neu bersonau lleol sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i iaith a diwylliant Cymru.
Magwyd Megan Jones ym mhentref Tal-garreg ger Llandysul yn un o bedwar o blant – tri brawd Emlyn (sydd wedi marw) Gwyn a Ronnie. Mynychodd Ysgol Uwchradd Aberaeron, wedyn Coleg Addysg Bellach, Aberystwyth i astudio teipio a llaw-fer. Bu’n gweithio i’r Cambrian News am oddeutu 20 mlynedd gan fynd nôl i weithio i Goleg Addysg Bellach am flwyddyn i astudio cwrs busnes dwyieithog Lefel 3. Mae’n dal i fynychu Capel y Fadfa (Undodiaid) yn Nhalgarreg a bu’n Llywydd ar yr Undodiaid yng Nghymru.

Mae Megan wedi bod yn weithgar ym mywyd diwylliannol Aberystwyth ers degawdau. Mae’n Gadeirydd y papur bro Yr Angor, Trefnydd Eisteddfod Calan Mai Aberystwyth a Chadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. Mae hi hefyd yn Lywydd Cangen Merched y Wawr, Aberystwyth eleni.
Mae Megan yn briod â Peter sydd wedi dioddef o Alzheimer ers 14 mlynedd ac sy’n byw yng Nghanolfan Gofal Plasgwyn. Mae’n fam i Meinir ac yn fam-gu i Siôn a Cerys. Yn an-ffodus mae Megan ei hun nawr yn derbyn triniaeth cemotherapi ac yn ddiolchgar am y gofal a’r triniaeth iddi dderbyn yn Ysbyty Bronglais. Mae’n ffan o Elvis, felly wedi bod i Tupalo, Graceland, Nashville a New Orleans.
Meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd y Parêd: “Rydym yn hynod falch i Megan dderbyn ein cais i fod yn Dywysydd eleni. Mae ei gyfraniad wrth hyrwyddo diwylliant a Chymreictod cylch Aberystwyth a Chymru yn dyst i’w weithgaredd. Mae’n enghraifft orau o’r werin Gymraeg ddiwylliedig sydd wedi cadw’n hiaith a diwylliant yn fyw am ganrifoedd,” meddai Siôn Jobbins.
Meddai Megan: “Tref gyffrous iawn yw Aberystwyth o ran ei lleoliad a’i golygfeydd, ei diwylliant a’i chelfyddydau, a’r amrywiaeth hyfryd o bobl sydd yn byw yma – ac rwy’n falch iawn o fod yn rhan o’i chymuned ers dod yma yn 1976. Diolch i drefnyddion y Parêd am eu gwaith ac am roi’r fraint i mi o arwain y Parêd eleni.”
Llwybr yr Orymdaith: Cynhelir Parêd 2026 ar ddydd Sadwrn 28 Chwefror 2026. Bydd yn dechrau o Gloc y Dre i waelod y Stryd Fawr, ac yna troi i’r chwith ar gornel Banc Barclays am Ffordd y Môr a syth am Lys-y-Brenin. Bydd top y rhannau o Stryd y Baddon a Ffordd y Môr sy’n ffinio â Llys y Brenin ar gau i gerbydau am gyfnod y Seremoni.
Mae Megan yn dilyn yn ôl traed: Jeremy Turner, sylfaenydd cwmni theatr Arad Goch (2025); David Greaney aelod gweithgar o’r gymuned Gatholig a’r byd Celtaidd (2024); Wyn Mel yr artist a ‘thad Mr Urdd” (2023); Robat ac Enid Gruffudd ‘Y Lolfa’ (2022); Meirion Appleton ‘Mr Pêl-droed’ (2020); Dilys Mildon, perchennog bwyty enwog Gannet’s (2019); yr awdur, cyhoeddwr a gweithredwr, Ned Thomas (2018); y diddanwr a’r codwr arian Glan Davies (2017); yr artist Mary Lloyd-Jones (2016); yr awdur a’r cyn-brifathro Gerald Morgan (2015); sylfaenwyr busnes Siop y Pethe, Megan a Gwilym Tudur (2014) a’r cerddor, awdur a chynhyrchydd teledu, Dr Meredydd Evans (2013).
Fel Tywysydd bydd Jeremy yn gwisgo sash hardd a wnaed yn unswydd i’r Parêd gan Caroline Goodband o Fachynlleth ac sy’n cynnwys enwau cyn dywyswyr. Yn dilyn y traddodiad o Wlad y Basg, caiff Megan hefyd rodd o ffon gerdded arbennig.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.