Yn dilyn Noson Goffi lwyddiannus iawn eto eleni gan bl 11 Ysgol Botwnnog, rhannodd pwyllgor y noson £4600 rhwng naw elusen neu achos lleol.
Un o’r elusennau oedd Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru a dderbyniodd siec am £1400.
Yn cyflwyno’r siec i Eryl Jones mae: Cadeirydd, Harri Fitpatrick; is-gadeirydd Steffan Kelliher; trysorydd, Cari Fuller ac ysgrifennydd Gwen Hughes