CAFODD disgyblion ysgolion Hafod Lon, Y Ffôr ac Ysgol Pendalar, Caernarfon ddangosiad arbennig o Panto Martyn Geraint eleni yn Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli.
Roedd dau berfformiad arall wedi bod yn Neuadd Dwyfor i ysgolion ac unigolion eraill, ond fe cafodd y ddwy ysgol uchod perfformiad arbennig o “Dacw Mam yn Dwad”.
Fe fu i Martyn Geraint oedd yn Awdur / Cyfansoddwr y Panto cysylltu gyda Ysgol Hafod Lon Y Ffôr yn ôl ym mis Mawrth diwethaf yn holi os buasai gan y ddwy ysgol diddordeb mewn dangosiad arbennig o’r panto.
Cafwyd trafodaethau rhwng Martyn a’r ddwy ysgol yn sgil hyn i ddarganfod beth buasai gofyn y fath sioe, pethau fel dim toriad, dim swn rhy uchel, dim tywyllwch llwyr ac ati.
Bu i’r trafod parhau a penderfynwyd y byddai cynnwys arwyddion Makaton yn rhai o’r caneuon yn beth neis i’w weld, anfonodd Martyn ebost gyda tair cân arni ac ar diwedd mis Hydref aeth Martyn draw i Ysgol Hafod Lon am sesiwn i ddysgu arwyddo i’r caneuon yma a fe wnaeth fideo o ddwy aelod o’r staff sef, Yvonne Moseley a Nia Jones er mwyn iddo fedru dysgu cast y panto a gweithio’r arwyddion i fewn i’r coreograffi.
Pan ddaeth y diwrnod mawr i blant y ddwy ysgol gael mynychu y perfformiad yn Neuadd Dwyfor, roedd mawr edrych ymlaen gan y disgyblion a’r staff i’r perfformiad arbennig hwn a dywedodd Yvonne: Roedd heddiw yn wych i ni, roedd hi’n neis medru mynd a disgyblion o bob oedran i’r sioe a pheidio a poeni am y plant yn codi o’u seddau a chadw swn.
Bu i’r disgyblion i gyd fwynhau yn arw, chwarae teg i Martyn Geraint am alluogi i’r dangosiad yma ddigwydd’.
Ar diwedd y perfformiad fe cyflwynwyd blodau i Yvonne a Nia gan Martyn Geraint a chafodd y disgyblion gyfle i cyfarfod a cael tynnu ei llun hefo’r cast, profiad arbennig iawn i blant arbennig iawn ar amser arbennig o’r flwyddyn.