Yn dilyn llwyddiant ysgubol taith Sion Corn o gwmpas trefi a phentrefi’r ardal cyn y Nadolig, sydd yn cael ei drefnu pob Nadolig gan griw gweithgar Clwb y Rotari ym Mhwllheli, fe rannwyd bron i £5,000 yn ddiweddar rhwng y grwpiau ac achosion da.

Ers blynyddoedd bellach mae Clwb Rotari Pwllheli wedi bod yn gofyn i grwpiau lleol i’w cynorthwyo gyda’r gwaith ac am helpu mae’r grwpiau yn cael canran o’r arian sydd yn cael ei gasglu.

Cafodd yr arian ei rannu mewn noson arbennig a drefnwyd gan Glwb Rotari Pwllheli ym Mhlas Heli i ddiolch i’r bobl a fu’n cynorthwyo dros y Nadolig.

Roedd bwyd wedi ei ddarparu i bawb, a oedd wedi cael ei dalu amdano gan siop Asda ym Mhwllheli.

Hefyd yn bresennol i ddiolch i bawb oedd Liz Saville Roberts yr Aelod Seneddol, a hi gafodd y gwaith pleserus o rannu’r arian i’r grwpiau.

Yn y llun o’r chwith: Yvonica Jones (Cylch Meithrin Chwilog), Phillip Horwood (Clwb Rotari Pwllheli), Linda Jones (Ysgol Abersoch), Linda Owen (Ysgol Cymerau) a Liz Saville Roberts AS.