Bydd Cerddwyr Cylch Teifi yn dechrau eu tymor newydd ym mis Hydref a bydd croeso i bawb i ymuno â nhw.
Y Gymraeg yw iaith y teithiau ond mae croeso i ddysgwyr o bob safon sy’n barod i beidio troi sgyrsiau’n Saesneg.
Bydd y teithiau misol ar ddyddiau Sadwrn yn dechrau am 10.30yb. ac fel arfer yn gorffen erbyn 12.30yp neu 1yp.
Weithiau byddwn yn trefnu man i gymdeithasu ar ôl cerdded i’r rhai sy’n dymuno.
Y ddwy daith gyntaf fydd: 14 Hydref, yn ardal Aberteifi gyda Terwyn Tomos; a 11 Tachwedd, yn ardal Cilgerran gydag Ali Evans.
Yn ystod y flwyddyn, bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys teithiau yn ardaloedd Pont Tyweli, Llangrannog, Trewyddel, Cenarth, Pwll Gwaelod, Penparc a Boncath.
Gan fod Covid wedi ymddangos eto, bob tro, rydym yn gofyn i’r Cerddwyr fod yn wyliadwrus er mwyn peidio lledu’r haint, gan sicrhau eich bod wedi cael y brechiadau sydd ar gael ichi; ceisio cadw rhyw bellter cymdeithasol rhesymol oddi wrth gerddwyr sy’n perthyn i aelwydydd eraill; peidio â dod ar daith os ydych chi’n hunan-ynysu neu’n dangos unrhyw symptom sy’n gysylltiedig â’r haint.
Ni fydd y grŵp yn hysbysebu bob taith yn y papur, gan fod pethau’n gallu newid ar fyr rybudd. Ond mae croeso ichi gysylltu er mwyn rhoi’ch enw ar y rhestr e-bostio i gael y manylion fis neu wythnos ymlaen llaw.
Cysylltwch â Philippa Gibson ar [email protected] neu 01239 654561.
Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]