TYRRODD filoedd i fwynhau’r holl hwyl a chystadlu ar faes Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.
Eleni mae’r Urdd wedi dathlu torri record o niferoedd yn cofrestru i gystadlu (100,454) mewn dros 400 o gystadlaethau, sy’n cynnwys mwy nag erioed o’r blaen o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg newydd.
Yn ogystal â’r tri Phafiliwn, ble bu plant a phobl ifanc talentog Cymru a thu hwnt yn cystadlu, mae Maes yr Eisteddfod wedi cynnig pob math o weithgareddau i bob oed. Ac yn dilyn proses o ymgynghori gydag arbenigwyr yn y maes anabledd a hygyrchedd i’r celfyddydau, roedd cyfres o ddatblygiadau wedi’u gwneud er mwyn sicrhau bod maes a gweithgareddau’r ŵyl yn hygyrch a chynhwysol.
Mae diolch yr Urdd i’r 5,000 o wirfoddolwyr am gynorthwyo’r mudiad i gynnal un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop ym Meifod eleni. Diolchwyd hefyd i Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth ariannol ychwanegol er mwyn sicrhau mynediad am ddim i deuluoedd incwm is a chynnig Eisteddfod i Bawb unwaith eto.
Meddai Llio Maddocks, cyfarwyddwr y celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Ar ran yr Urdd hoffwn ddiolch i holl bobl Maldwyn am y croeso arbennig rydym wedi ei dderbyn trwy gydol yr wythnos a’u brwdfrydedd dros y blynyddoedd yn creu cynnwrf am yr Eisteddfod a chodi arian i’n cefnogi.
“Hoffwn ddiolch o galon i bob un o’r 5,000 o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn rhan o wireddu’r Eisteddfod, a diolch i’r holl athrawon ag arweinyddion am eu hymroddiad arbennig ers misoedd yn paratoi ag hyfforddi ein plant a phobl ifanc. Mae mwy nag erioed o blant a phobl ifanc wedi cael y cyfle i gystadlu, mwynhau a gwneud atgofion oes.
“Mae Eisteddfod yr Urdd yn un o uchafbwyntiau diwylliannol ein calendr Cymreig, ac mae gwyliau celfyddydol yn haeddu cael eu mwynhau gan bawb. Mae sicrhau cyfleoedd a phrofiadau i gystadleuwyr ac ymwelwyr sy’n siaradwyr Cymraeg newydd yn hanfodol i lwyddiant a gwaddol ein gŵyl ieuenctid. Edrychwn ymlaen at Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro 2025 yn llawn hyder.”
Cyhoeddwyd teilyngdod ym mhob un o brif seremonïau’r Eisteddfod eleni. Wanesa Kazmierowska o Abertawe oedd enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Saffron Lewis o Sir Benfro oedd enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg; cyhoeddwyd Alys Hedd Jones o Gaerdydd yn Brif Ddramodydd; dyfarnwyd Medal Bobi Jones i Isabella Colby Browne o’r Wyddgrug a Medal y Dysgwyr i Melody Griffiths o Wrecsam; Lois Medi Wiliam, yn wreiddiol o Benrhosgarnedd, Bangor oedd Prifardd yr Eisteddfod; coronwyd Tegwen Bruce-Deans o Landrindod, Maesyfed yn Brif Lenor yr ŵyl; a cipiodd Gerard Coutain o Rydaman y Fedal Gyfansoddi.
Am y tro cyntaf eleni dewiswyd chwech o berfformwyr ifanc rhwng 18 a 25 oed o blith y cystadlaethau i unigolion o dan 25 i fod yn Llysgenhadon Diwylliannol Rhyngwladol Ifanc yr Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae’r chwech fel a ganlyn: Tomos Heddwyn Griffiths (Trawsfynydd), Owain Rowlands (Llandeilo), Morus Caradog Jones, Eiriana Jones-Campbell, Nansi Rhys Adams a Owain Siôn o Gaerdydd.
Cadi Glwys Davies o Foelfre, Maldwyn (Aelwyd Sycharth) sy’n derbyn Ysgoloriaeth yr Eisteddfod eleni - ysgoloriaeth a wobrwyir i’r cystadleuwyr mwyaf addawol yn yr oedran blwyddyn 10 a dan 19 oed. Mae Cadi wedi cael wythnos brysur iawn gan brofi llwyddiant mewn sawl cystadleuaeth gan gynnwys y Ddawns Stepio, Perfformiad Theatrig Unigol yn ogystal â hyfforddi grwpiau dawnsio gwerin newydd sbon a serennu yn Sioe Ieuenctid yr Eisteddfod nos Sul.
Ar ddydd Gwener a Sadwrn yr ŵyl, cynhaliwyd gŵyl o fewn gŵyl, Gŵyl Triban – gwledd o gerddoriaeth, theatr stryd, comedi a bwyd. Bu trefnwyr yr Eisteddfod yn gweithio gyda phum curadur ifanc i sicrhau bod arlwy Gŵyl Triban – sy’n cynnwys artistiaid fel Bwncath, Eden a Lily Beau – yn gynhwysol a pherthnasol i bobl ifanc.
Bydd Eisteddfod yr Urdd 2025 yn cael ei gynnal ym Mharc Margam, Castell-nedd Port Talbot 26-31 Mai 2025.