FFURFIWYD Cymdeithas Eisteddfodau Cymru dros bum mlynedd ar hugain yn ôl, ac ers sawl blwyddyn bellach, maent yn cyflogi dau swyddog rhan amser – Angharad (Swyddog Datblygu) a Lois (Swyddog Cyfathrebu). Ariennir y swyddi hyn gan Lywodraeth Cymru. Mae’r nifer o eisteddfodau sy’n aelodau o’r Gymdeithas wedi cynyddu tipyn, a dros y blynyddoedd mae sawl eisteddfod wedi ail-godi neu wedi dechrau o’r newydd. Yn ogystal, mae’r cydweithio rhwng y Gymdeithas a sefydliadau eraill wedi ehangu a datblygu.
Dechrau neu ail-godi Eisteddfod! Beth amdani?
Ydych chi am ddechrau (neu ail-godi) eisteddfod yn eich ardal chi? Cofiwch fod y Gymdeithas yn cynnig pob math o gymorth, gan gynnwys canllawiau ac wrth gwrs, sgwrs gyda’r swyddogion. Cysylltwch os oes gennych ddiddordeb.
Yn ystod y misoedd diwethaf mae sawl ardal wedi cysylltu i ddangos diddordeb mewn dechrau neu ail- godi eisteddfod yn eu cymunedau. Mawr obeithiwn y gellir ychwanegu’r enwau i’n rhestr eisteddfodau yn y flwyddyn neu ddwy nesaf.

Help ariannol a ffyrdd i godi arian
Raffl Flynyddol: Mae’r Gymdeithas yn gofyn i bob eisteddfod i werthu gwerth £20 o docynnau raffl, gyda’r arian hynny wedyn yn helpu i ariannu ein stondin yn Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol. Cynigir rhagor o docynnau i’r eisteddfodau, a bydd unrhyw elw a wneir ganddynt wedyn yn mynd i goffrau’r eisteddfod honno. Noddwyr y raffl eleni eto yw Teithiau Elfyn Thomas, a diolch iddynt am eu cefnogaeth barhaol.
Grantiau: Mae’r Gymdeithas yn cynnig nawdd o £100 i helpu eisteddfodau newydd.
Cysylltwch ag Angharad neu Lois am ragor o fanylion.

Cystadlaethau Cymdeithas Eisteddfodau Cymru
Mae’r Gymdeithas yn cynnal cystadlaethau ar y cyd â'r Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn.
- Cystadleuaeth Gorawl
- Tlws yr Ifanc
- Mewn Cymeriad
Gellir gweld manylion ac amodau’r cystadlaethau yn llawn ar www.steddfota.cymru neu cysylltwch ag Angharad neu Lois.
Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr Parc Margam a’r Fro ac Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam


Dyma ffenestri siop y Gymdeithas – siawns i gyfarfod a sgwrsio gyda chefnogwyr eisteddfodau, dosbarthu rhestrau testunau, cyfarfod â swyddogion eisteddfodau eraill (a chystadleuwyr) neu gymryd rhan mewn ambell weithgaredd! Rydym wrthi’n trefnu’r stondinau ar hyn o bryd – felly cofiwch bydd angen cyflenwad o restrau testunau arnom.
Gwefan y Gymdeithas (www.steddfota.cymru)
Mae gwefan y Gymdeithas yn denu miloedd o ymwelwyr yn fisol. Mae’n gyfle i weld yr hyn sydd yn mynd ymlaen ym myd yr eisteddfodau - gweld rhestr o ddyddiadau eisteddfodau, lawrlwytho testunau, mwynhau canlyniadau ac adroddiadau ynghyd â lluniau a straeon diddorol o fyd yr eisteddfodau. Mae’r wefan hefyd yn gyfle i’r eisteddfodau i hysbysebu eu gweithgareddau.
Gellir dilyn y Gymdeithas ar Facebook, X ac Instagram yn ogystal. Chwiliwch am ‘Cymdeithas Eisteddfodau Cymru’.
Cofiwch gysylltu – Rydym ni yma i’ch helpu
Angharad Morgan (Swyddog Datblygu): [email protected]
Lois Williams (Swyddog Cyfathrebu): [email protected]