Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Castell Newydd Emlyn yn Ysgol y Ddwylan ar y 15 Fehefin a chafwyd diwrnod o gystadlu o’r safon uchaf.

Y beirniaid cerdd eleni oedd Delyth Medi, Caerdydd a Gareth Wyn Thomas, Capel Hendre. Beirniadwyd y Llefaru gan Geraint Hughes, Peniel a’r Llenyddiaeth gan y Prifardd Aneirin Karadog, Cefneithin. Y Llywydd Anrhydeddus oedd Ben Lake AS a chafwyd anerchiad pwrpasol ganddo.

Enillwyd Cadair yr Eisteddfod gan Y Parchedig Judith Morris ac fe deithiodd enillydd y Tlws Ieuenctid sef Iago Llŷn Evans yr holl ffordd o Fotwnnog i gasglu’r wobr.

Gruffydd Rhys Davies enillydd Tarian Her er cof am Mrs Eluned Schiavone, Unawd ar Unrhyw Offeryn Cerdd i blant Ysgol Gynradd
Enillydd y Tlws Ieuenctid, Iago Llyn Evans o Fotwennog a dde, Gruffydd Rhys Davies enillydd Tarian Her er cof am Mrs Eluned Schiavone, Unawd ar Unrhyw Offeryn Cerdd i blant Ysgol Gynradd (Supplied)

Y Canlyniadau yn llawn:

Cystadlaethau Cyfyngedig

Unawd blwyddyn 3 ac iau, Marged Evans; Llefaru blwyddyn 3 ac iau, Marged Evans; Unawd blwyddyn 4, 5 a 6, Gruffydd Rhys Davies; Llefaru blwyddyn 4, 5 a 6, Gruffydd Rhys Davies; Unawd ar Unrhyw Offeryn Cerdd i blant Ysgol Gynradd ( Tarian Her Er cof am Mrs Eluned Gruffydd Schiavone, Gruffydd Rhys Davies

Unawd Gymraeg wreiddiol, Ffion Thomas, Cwpan Her y diweddar Mrs Joan Thomas
Marged Evans enillydd Unawd blwyddyn 3 ac iau ac ar y dde, Unawd Gymraeg wreiddiol, Ffion Thomas, Cwpan Her y diweddar Mrs Joan Thomas (Supplied)

Agored: Unawd blwyddyn 3 ac iau, Marged Evans; Llefaru blwyddyn 3 ac iau, Marged Evans; Unawd blwyddyn 4, 5 a 6, Nanw Griffiths-Jones; Llefaru blwyddyn 4.5 a 6, Nanw Griffiths- Jones; Canu Emyn i blant ysgol Gynradd, Nanw Griffiths- Jones; Unawd 12 - 16 oed, Ela Mablen Griffiths- Jones; Llefaru 12 – 16 oed, Ela Mablen Griffiths- Jones; Unawd ar unrhyw offeryn cerdd dan 19 oed, Lleucu Thomas (Telyn); Unawd Alaw Werin dan 19 oed, Ela Mablen Griffiths- Jones; Unawd Cerdd Dant dan 19 oed, Ela Mablon Griffiths- Jones a Nanw Griffiths- Jones yn gydradd; Deuawd lleisiol dan 19 oed, Nanw ac Ela Mablen Griffiths-Jones; Tarian Cerddor Emlyn – ( Er Cof am y diweddar Wyn Evans ) i’r cystadleuydd mwyaf addawol o dan 19 oed yn yr Adran Gerdd, Buddugol = Ela Mablen Griffiths- Jones

Enillydd Cadir yr Eisteddfod , Y Parchedig Judith Morris_
Enillydd Cadair yr Eisteddfod , Y Parchedig Judith Morris_ (Supplied)

Sesiwn yn y hwyr: Unawd dan 25 oed, Ffion Thomas; Perfformio darn digri – Agored, Gwion Bowen; Unawd allan o sioe gerdd, Ffion Thomas; Llefaru dan 25 oed, Gwion Bowen; Canu Emyn dros 60 oed ( Cwpan Her y diweddar Alwyn Morgan), Daniel Rees; Llefaru darn allan o’r Ysgrythur, Gwion Bowen a Gwendoline Evans yn gydradd; Parti neu Gôr Lleisiol Lleol, Parti Medeni; Prif Gystadleuaeth Gorawl ( Cwpan Her y diweddar Mary Gwynnant Jones), Cȏr Merched Bro Nest; Prif Gystadleuaeth Lefaru neu Gyflwyniad Llafar ( Cwpan Her y diweddar Mr Frank James), Carol Davies; Her Unawd ( Cwpan Her y diweddar Mr Ben James), Ffion Thomas; Deuawd Lleisiol dros 19 oed, Efan Williams a Barry Powell; Unawd Gymraeg wreiddiol ( Cwpan Her y diweddar Mrs Joan Thomas) Ffion Thomas

NCE EIsteddfod
Unawd blwyddyn 4,5 a 6 (Supplied)

Llenyddiaeth

Telyneg, Nia Llewelyn, Drefach; Englyn, Alan Iwi, Didcot; Stori Fer, Rebecca Rees, Talgarreg; Darn o Ryddiaith ar y thema Gofal, Rebecca Rees, Talgarreg; Limrig, Megan Richards, Aberaeron; Brawddeg, Megan Richards, Aberaeron.

NCE Eisteddfod
Gwion Bowen, Perfformio darn digri (Supplied)

Adran y Dysgwyr

Darn Creadigol hyd at 200 o eiriau i ddysgwyr unrhyw lefel, Anne May, Narberth.