Mae’r cogydd Bryn Williams yn dweud byddai ei wraig – prif leisydd a gitarydd y band roc Texas, Sharleen Spiteri – yn symud i fyw i’w gartref yn Llandyrnog yn nyffryn Clwyd “fory” wedi iddi syrthio mewn cariad â’r ardal yn ystod cyfnod y clo.
Tra’n siarad mewn cyfweliad arbennig ar gyfer S4C, mae Bryn Williams hefyd yn disgrifio sut iddyn nhw gadw’u perthynas yn dawel am flynyddoedd, a dim ond eu ffrindiau agos a theulu yn gwybod.
Roedd Bryn yn siarad â’r gyflwynwraig Elin Fflur ar gyfer cyfres S4C ‘Sgwrs Dan y Lloer’ yn ei dŷ bwyta ‘Bryn Williams at The Cambrian’, yn Adelboden, Y Swisdir.
Mae'r cyfweliad i’w gweld ar S4C Clic a BBC iplayer.
Er bod Bryn yn dweud nad yw e’n barod i symud yn ôl i Gymru o Lundain, mae ei wraig Sharleen Spiteri yn frwd i symud,
“Fasa Sharleen yn byw yna fory. Ar ôl lockdown aru hi gael y teimlad yna, yn sydyn ar ôl lockdown, se hi yn hapus yn Llandyrnog. Ond dwi ddim cweit yn hapus eto.”
Mae Bryn yn treulio ei amser ar hyn o bryd rhwng ei bedwar tŷ bwyta, Odettes yn Llundain, Bryn Williams Porth Eirias ym Mae Colwyn, The Touring Club yn Penarth a’i leoliad ddiweddaraf yng Ngwesty’r Cambrian yn Adelboden, Y Swisdir.
Mae ei olygon yn gadarn ar ei fwyd, ag yntau wedi dysgu gan rhai o chefs mwyaf enwog y byd gan gynnwys Marco Pierre White a Michel Roux Jr.
Doedd Bryn na Sharleen ddim yn dymuno’r sylw cyhoeddus ar eu perthynas fel esbonia Bryn wrth Elin Fflur, a dydyn nhw ddim am ymddangos gyda’i gilydd mewn unrhyw gyfleoedd marchnata.
“Aru ni’n dau gytuno bod cadw o yn ddistaw, deud wrth neb heblaw am teulu a ffrindiau, ag oedd o yn ddistaw am dair i bedair blwyddyn i fod yn onest.
“Hyd yn oed rŵan, da ni yn deud na i bob peth i fod yn onest.
“Da ni yn cael ein gofyn i neud bob un rhaglen deledu, bob un papur bob un magazine, y briodas – pob peth ti’n gwbod? Da ni yn dweud na i bob peth.
“Ma’ ’na elfen yn gorfod bod mae just hi a fi yn gwybod amdano. Os ydi pawb yn gwybod bob peth amdano ti – be di’r pwrpas?"
Mae tai bwyta Bryn yn denu clientele adnabyddus iawn gan gynnwys Kylie Minogue, Paul McCartney a Noel Gallagher, ond mae ei draed yn gadarn ar y ddaear:
“Mae pawb yn cael eu trin union yr un peth. I fi y bwyd sy’n bwysig, dim ots pwy sy’n bwyta fo.”