THE latest community news from Bronant
Merched y Wawr
MAE chwaraeon MyW wedi gorffen nawr, llongyfarchadau i’r tîm dartiau am ddod yn ail yn yr Wyl Haf ar 19 Mai ym Machynlleth, sef Eluned Hafodwen, Eirlys Cwmcoy a Llinos Pantgwyn; hefyd daeth Aeronwen yn ail yn adran y ffotograffiaeth gyda hunlun.
Yng Ngwyl Fai y mudiad yn Felinfach, cafodd Brenda a Llinos wobr am dynnu llun ‘Hen Ddrws’ a ‘Y Tywydd’; hefyd daeth Aeronwen ail yng nghystadleuaeth Radi Thomas yn y Sioe Fawr gydag eitem allan o friwgig melys.
Pob hwyl i Hazel Thomas fel swyddog datblygu Penfro a Ceredigion ac ymddeoliad hapus i Elizabeth Evans a fu wrthi am flynddoedd.
Bu llawer o aelodau yng nghinio’r llywydd cenedlaethol, sydd yn gorffen eleni a chafwyd araith deimladwy gan Sandra Morris-Jones. Diolchodd am y cardiau tra fu yn y gwahanol ysbytai, yn enwedig i aelodau cangen Bronant ac roedd yn hyfryd ei gweld yn edrych mor dda. Cafwyd cinio blasus yng Ngwesty’r Emlyn gydag adloniant gan Mair Tomos Ifans.
Ar 2 Mai aeth aelodau i Glwb Bowlio Tregaron; cafwyd llawer o hwyl a diolch i David John am y gwesi. Wedyn ymlaen i River Bank Café a siop fferm, lle cafwyd bwyd blasus. Diolchodd Eirlys Morgan i Aeronwen a Llinos am drefnu; a dymunwyd yn dda i Delyth Humphries ac Anne Gwynne ym mis Medi.
Mae Trip Celf a Chefft y Rhanbarth yn mynd i Ferthyr Tudful ar 13 Hydref.
Cydymdeimlir â Jacqueline Edwards, Dolgroes ar farwolaeth ei phriod, Wil Dai Edwards, hefyd â Meinir y ferch ac Aled y mab a’i deulu ar golli tad a thadcu annwyl. Dymnir penblwydd hapus hwyr i Eirlys Morgan a phriodas aur hapus i Dorothy a Morris Lewis, Plas.
Ceir hoe nawr dros yr haf – mae croeso i aelodau newydd i ymuno â’r gangen.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]