BYDD tymor newydd o Cwis Bob Dydd S4C yn dechrau ddydd Llun Mai 20fed.
Bydd yr enillydd yn derbyn y brif wobr, sef gwyliau i bedwar o bobl mewn chalet sgïo moethus yn Méribel yn Ffrainc.
Bob tro bydd rhywun yn cystadlu ar y cwis byddan nhw'n derbyn tocyn i’r raffl am gyfle i ennill y brif wobr. Mae’r siawns o ennill yn cynyddu po fwyaf mae rhywun yn cystadlu.
Bydd y tymor newydd yn rhedeg am ugain wythnos o fis Mai i fis Hydref, gyda’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan ar ôl i’r tymor orffen.
Dyma bedwerydd tymor y cwis sydd wedi casglu bron i 20,000 o ddilynwyr ffyddlon.
Gallwch gymryd rhan ar ffôn Apple neu Android a’r cyfan sydd angen gwneud yw lawrlwytho’r ap a chofrestru.
Y nod yw ateb deg cwestiwn y dydd i gyd yn gywir, mor gyflym â phosib, er mwyn cyrraedd brig y sgorfwrdd.
Mae'r sgôr yn gyfuniad o'r atebion cywir a pha mor gyflym mae'r cystadleuwr wedi eu hateb, ac mae'r cwestiynau'n wahanol i bawb.
Dywedodd Megan Llŷn, un o gyflwynwyr y cwis: “Mae’r tîm i gyd mor gyffrous i allu cyhoeddi tymor newydd o Cwis Bob Dydd.
“Gallwch chi gymryd rhan yn hawdd iawn – dim ond lawrlwytho’r ap sydd angen.
“Chwaraewch yn erbyn eich ffrindiau, eich cydweithwyr, eich partner, eich teulu a Chymru gyfan.
“Pwy a ŵyr, efallai mai chi fydd yn ennill y brif wobr sef gwyliau arbennig i bedwar yn Meribel, Ffrainc.
“Pob lwc i chi gyd ar y cwis – a cofiwch bod mwy o siawns gyda chi i ennill bob tro fyddwch chi yn cymryd rhan!”
Dywedodd Ameer Davies-Rana un arall o gyflwynwyr y cwis: “Fe fydd yna ystod eang o gwestiynau yn y cwis fydd yn siŵr o herio pawb.
“Bydd 'na gwestiynau cwis traddodiadol, ychydig o trivia, a chwestiynau am ddiwylliant Cymru.
“Cofiwch hefyd edrych allan amdano ni yn y digwyddiadau mawr dros yr haf.
“Fe fyddwn ni yn Eisteddfod yr Urdd, Y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol a chyfleon gwych i ennill gwobrau Cwis Bob Dydd os gwnewch chi gymryd rhan.”