Dyn â diddordeb mewn crefftau a hen offer ydi Glyn Roberts, Murpoeth, Bryncroes. Mae hefyd yn chwilotwr dyfal drwy hen ddogfennau, hen gofnodion, hen fapiau a hen luniau.
Pan oedd y corff treftadaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn eisiau creu arolwg o hen felinau’r ardal, roedd yn naturiol iddynt nhw droi at y gwladwr gwybodus ond diymhongar hwn i wneud y gwaith.
Casglodd Glyn wybodaeth am dros hanner cant o felinau. Mae’r rheiny’n cael eu dosbarthu ganddo yn felinau ŷd, melinau gwlân a melinau gwynt.
Gyda chydweithrediad Plas Glyn y Weddw a nawdd pellach gan ymddiriedolaeth Sefydliad y Teulu Ashley a Cronfa Ddatblygu Cynaliadwy cyflwynwyd arddangosfa unigryw o’i waith yn yr oriel yng ngaeaf 2024.
Ffrwyth ei ymchwil a’i gariad at hen grefftau gwledig yw’r gyfrol hon.
Fe’i cyhoeddir ar y cyd rhwng Plas Glyn-y-Weddw a Gwasg Carreg Gwalch.
Meddai’r awdur Glyn Roberts: “Tua phum mlynedd yn ôl bellach, roedd gwasanaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol – AHNE-Llŷn – eisiau gwneud arolwg o hen safleoedd diwydiannol yn yr ardal a chefaiswahoddiad i wneud arolwg o’r hen felinau oedd wedi bod yn gweithio yn Llŷn.
“Oherwydd bod gennyf ddiddordeb mewn hen beiriannau a hanes lleol yr oeddwn yn falch iawn o gael gwneud y gwaith hwn ar ran yr AHNE.
“Gwneuthum arddangosfa fechan am y melinau yn Sioe Nefyn ym mis Mai 2019 a hefyd mewn arddangosfa o hen luniau yn Neuadd Goffa Sarn ym mis Awst yr un flwyddyn.
“Ar ôlyr arddangosfa rwyf wedi bod yn ysgrifennu erthygl fisol i Llanw Llŷn am felinau’r ardal.
“Yn 2020 daeth yr aflwydd Covid i atal pethau, ond erbyn 2022 bu modd cael arddangosfa eto yn y Neuadd Goffa yn Sarn, y tro yma am y diwydiant gwlân yn Llŷn.
“Ymgais yw’r llyfr yma i gasglu peth o hanes y melinau ŷd a’r melinau gwlân sydd wedi bod yn gweithio yn Llŷn dros y canrifoedd.
“Rwyf wedi canfod tros hanner cant o’r melinau yma, yn amrywio yn eu cyflwr, rhai yn dal mewn cyflwr gweddol o hyd.
“Mae dwy, melin Aberdaron a Melin Rhyd Hir, yn cael eu hadnewyddu, gyda’r gobaith o’u cael i weithio eto.
“Mae rhai o’r melinau wedi cael eu trosi yn dai, a rhai eraill wedi cael eu gadael, ar ôl i’w defnydd gwreiddiol ddod i ben ac mewn cyflwr gwael erbyn hyn. Mae rhai o’r melinau wedi diflannu yn llwyr ac yn achos rhai, yr enw hefyd, ac efallai mai cyfeiriad ar fap yw’r unig gofnod sy’n aros ar ôl ohonynt
Arddangosfa
I gyd-fynd â’r gyfrol, agorwyd arddangosfa newydd ym Mhlas Glyn-y-Weddw yn ddiweddar yn rhoi sylw arbennig i hanes y diwydiant gwlân yn Llŷn trwy gyfuniad o’r cyfoes a’r hanesyddol.
Bydd yn gyfle hefyd i ddod a gwaith artistiaid cyfoes o bob rhan o Gymru sydd unai yn gwehyddu neu yn defnyddio tecstiliau yn eu gwaith ynghyd.
Mae yna gasgliad o garthenni wedi eu cynhyrchu mewn ffatrioedd gwlân megis Penycaerau, Edern, Nanhoron a Phwllheli, wedi eu rhoi ar fenthyg drwy garedigrwydd teuluoedd lleol hefyd yn cael eu harddangos ochr yn ochr â chreiriau cysylltiedig â’r diwydiant.
Yn ystod yr un cyfnod bydd arddangosfa gan y gwehydd Cefyn Burgess sydd a’i weithdy yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ac yn dwyn y teitl ‘Cwlwm Gwlân’, yn cael ei chynnal yn y Plas ac yn cynnwys gwaith mewn pwyth, print a thecstil.
Bydd 12 o artistiaid a chrefftwyr sydd yn gweithio gyda gwlân yn arddangos eu gwaith yn ffurfio arddangosfa gymysg, gan gynnwys ambell un sydd yn byw yn lleol megis Elin Huws, Llanbedrog, Julie Roberts o Abererch a chynnyrch menter newydd rhwng Meinir Roberts, Tanrallt, Llangian a Sian Whitney, Llanbedrog. Hefyd yn arddangos mae Llio James, Laura Thomas, Anna Pritchard, Steve Attwood Wright, Haf Weighton, Cathryn Gwynn, Nerys Jones, Eirian Muse a Helen Jones.
Mae Melinau Llŷn ar werth mewn siopau llyfrau ledled Cymru ac ar y we drwy wefan y wasg, www.carreg-gwalch.cymru a gwefan y Cyngor Llyfrau, www.gwales.com