ARBENIGWR mewn llenyddiaeth a threftadaeth Gymreig o Aberystwyth ac arbenigwr hanes o Fynwy yw aelodau diweddaraf Pwyllgor Cymru o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae Pedr ap Llwyd a Caroline Crewe-Read wedi’u penodi i eistedd ar y corff sy’n dosbarthu grantiau gwerth hyd at £10 miliwn y flwyddyn i brosiectau sy’n dathlu treftadaeth Cymru.
Archifydd cymwys a Phrif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw Pedr. Yn y gorffennol mae wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Llywodraethu a Chyfarwyddwr Casgliadau y sefydliad.
Dywedodd Pedr: “Rwyf wedi gweld sut mae cefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i dreftadaeth a diwylliant yng Nghymru ac, yn bwysig iawn, i bobl, cymunedau a’r amgylchedd.
“Mae’n fraint cael ymuno â Phwyllgor Cymu.”
Treuliodd Caroline ugain mlynedd yn gweithio yn y sector amgylchedd hanesyddol yng Nghymru a Lloegr. Daeth yn Gomisiynydd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru yn 2016.
Meddai: “Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn i ymuno â Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wrth iddi lansio ei strategaeth ddeng mlynedd newydd ac edrychaf ymlaen at helpu Pwyllgor Cymru i benderfynu sut i ddyrannu arian er budd treftadaeth ryfeddol Cymru a’r rhai sy’n ei mwynhau ac yn ei gwerthfawrogi.”
Dywedodd Denise Lewis Poulton, Cadeirydd Pwyllgor Cymru Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Hoffwn groesawu Caroline a Pedr i Bwyllgor Cymru ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw a thynnu ar eu profiad a’u gwybodaeth sylweddol i barhau i gefnogi sefydliadau a phrosiectau sy’n gwarchod treftadaeth Cymru ar gyfer cenedlaethau heddiw a’r dyfodol.
“Mae’n amser cyffrous i ymuno â Phwyllgor Cymru wrth i ni gyflwyno ein strategaeth 10 mlynedd newydd - Treftadaeth 2023, gyda’i ffocws ar bobl a lleoedd a’r amgylchedd.”
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn chwilio am aelodau newydd eraill i weithio ochr yn ochr â Caroline a Pedr ar Bwyllgor Cymru.
I gael manylion am sut i ddod yn aelod o Bwyllgor Cymru o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ewch i adran swyddi eu gwefan www.cronfatreftadaeth.org.uk