I ddathlu cyhoeddi Cyfres Celt y Ci, ar ddydd Gwener, 29 Medi, aeth yr awdures Rhiannon Wyn Salisbury a’r arlunydd Elin Vaughan Crowley, i Ysgol Llanilar ac Ysgol Gymraeg Aberystwyth i gynnal gweithdai hwyliog gyda disgyblion y dosbarthiadau derbyn.
Darllenodd Rhiannon, awdures y gyfres, y stori gyntaf, sef Celt y Ci, ac yna cafwyd sesiwn arlunio gydag artist y gyfres, Elin.
Cafwyd croeso mawr gan y ddwy ysgol.
Meddai Rhiannon, sydd hefyd yn gweithio fel athrawes cefnogi’r Gymraeg i sir Ceredigion: “Rydw i, Elin a’r Lolfa yn ddiolchgar iawn i’r ddwy ysgol am ein gadael ni i ddathlu cyhoeddiad ein cyfres newydd gyda’r plant!
“Roedd yn wych gweithio gyda’r plant a gweld eu hymateb i’r llyfrau.”
Mae’r gyfres newydd wedi ei dylunio’n arbennig i ddarllenwyr newydd, ac mae yna eirfa Saesneg yng nghefn y llyfr i helpu rhieni di-Gymraeg. Mae’r gyfres wedi ei gosod ar fferm ddychmygol yng nghefn gwlad Cymru.
Cyhoeddir y gyfres, o bump llyfr, gan Wasg Y Lolfa gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Mae Cyfres Celt y Ci gan Rhiannon Wyn Salisbury ac Elin Vaughan Crowley ar gael nawr.