Enfys Hatcher Davies oedd gwraig wadd Merched y Wawr cangen Llanafan yn eu cyfarfod ar 8 Ionawr.
Merch tafarn enwog Cefn Hafod, Gors-goch, yw Enfys, ond bellach yn byw yn Llanddewibrefi gyda’i gŵr a’r plant, ac yn gweithio fel athrawes yn Ysgol Henry Richard, Tregaron.
Etifeddodd Enfys ddawn gerddorol ei theulu a chafwyd brofiad gwbl newydd ganddi: dysgu sut i chwarae iwkeleli! Mae Enfys yn hen law ar hyn ac yn dysgu’r plant yn yr ysgol.
Diddorol oedd clywed bod eu cael nhw i ganu caneuon syml Cymraeg gyda chyfeiliant yr iwkeleli yn fodd i gyflwyno’n diwylliant ni i’r plant o gartrefi di-Gymraeg ac i’w helpu gyda’r iaith yr un pryd.
Daeth Enfys â digon o’r offerynnau ar ein cyfer a chyn hir roedd pawb yn dechrau trin y tannau ac yn cyfeilio eu hunain wrth ganu caneuon cyfarwydd fel Gee ceffyl bach a Bing-bong-bei.
Ar ôl awr, er nad oedden nhw cystal â’r plant, mae’n siŵr, o leiaf meistrolwyd tri chord oedd yn ddigon da ar gyfer perfformiad go lew!
Cafwyd llawer o hwyl a diolchwyd yn gynnes iawn i Enfys am noson mor ddifyr cyn ymlacio dros baned.