WYTHNOS ddiwethaf fe gynhaliodd yr awdur Meinir Wyn Edwards o Llandre, ger Aberystwyth, gyfres o weithdai arbennig ar gledrau Lein y Cambrian, gan gyflwyno rhai o chwedlau mwyaf adnabyddus Cymru i ddisgyblion Ysgol Tanycastell, Harlech, ac Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth.
Parents of organ donor light up memorial garden in Aberystwyth this Christmas
Woman running 200 marathons in 200 days to run Tenby to Aberystwyth this Christmas
Penrhyncoch man drove the wrong way on a one way street in Aberystwyth
Staff at stretched Bronglais A&E praised as concerns over corridor care persistTrefnwyd y Daith Awdur ar y cyd gan y Cyngor Llyfrau a threnau Arriva Cymru wedi i gyfrol Meinir, Deg Chwedl o Gymru a gyhoeddwyd gan wasg y Lolfa, gael ei chynnwys ar restr fer Gwobr Tir na n-Og eleni. Mae llyfrau Meinir am chwedloniaeth Cymru, cyfres Chwedlau Chwim a Folk Tales in a Flash!, eisoes wedi profi’n boblogaidd iawn ymhlith plant yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Cafodd y disgyblion y cyfle i ddysgu am dreftadaeth lenyddol a diwylliannol Cymru wrth gael blas ar chwedlau oedd yn perthyn i’w hardaloedd.
“Mae’r syniad o daith Chwedlau ar y Cledrau yn wych,” meddai Meinir Wyn Edwards, yn gwreiddiol o Boncath yn sir Benfro. “Mae hi’n Flwyddyn y Chwedlau eleni wrth gwrs, a pha le gwell i adrodd rhai o’n straeon mwyaf cyfarwydd ni nag yn y llefydd maen nhw wedi eu lleoli. Roedd y daith ar hyd arfordir Bae Ceredigion yn fendigedig. Does dim rhyfedd ei bod hi’n un o deithiau trên mwyaf epig y byd, yn ôl papur newydd y Guardian!”
Darllenwch yr holl erthygl yn y Cambrian News wythnos yma



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.