MAE miloedd o unigolion, ysgolion a sefydliadau dros y byd wedi dangos cefnogaeth i ‘Gweithred yw Gobaith’, Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2024 pobl ifanc Cymru, a ryddhawyd ar ffurf ffilm animeiddiedig gan Urdd Gobaith Cymru ddydd Gwener.
Bu’r sylw ar y cyfryngau cymdeithasol i’r ymgyrch yn cynyddu trwy gydol y dydd, gyda’r Neges yn cyrraedd dros 30 o wledydd hyd yn hyn, gan gynnwys India, Moldova, Patagonia, UDA, Slofacia a Japan.
Ysbrydolwyd ‘Gweithred yw Gobaith’, Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2024 gan Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24 a arwyddwyd gan bron i 400,000 o fenywod ganrif yn ôl, ac mae’n datgan mai “her canrif newydd” yw’r angen i barhau i weithredu dros heddwch, a rhoi diwedd ar erchyllterau, rhyfeloedd a thrais.
Yn gyfrifol am y Neges Heddwch eleni oedd merched sy’n fyfyrwyr ar gyrsiau ESOL (dysgwyr Saesneg fel ail iaith) yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro sydd wedi symud i Gymru a gwneud Cymru yn gartref newydd, ynghyd â rhai o staff, prentisiaid a gwirfoddolwyr benywaidd yr Urdd.
Bu i’r Urdd gynnal digwyddiad arbennig yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru ddydd Gwener, ble mae Deiseb Heddwch 1923-24 yn rhan o arddangosfa ‘Hawlio Heddwch’ ar hyn o bryd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg, Jeremy Miles oedd yn bresennol yn y digwyddiad: “Gyda’r holl erchyllterau ac ansefydlogrwydd sydd yn y byd heddiw, mae’r neges heddwch ac ewyllys da yn bwysicach nag erioed.
Rwy’n falch iawn o’r cyfle i gefnogi’r neges ar ran Llywodraeth Cymru, ac o gyfraniad yr Urdd i wneud Cymru’n Genedl Noddfa i ffoaduriaid dros y blynyddoedd diwethaf.
“Drwy gyfieithu’r neges i 70 o ieithoedd eleni, bydd geiriau pwerus pobl ifanc Cymru yn atseinio ymhell, ac yn rhoi gobaith fod gwell byd a heddwch yn bosib.”
Meddai prif eeithredwr Urdd Gobaith Cymru, Siân Lewis: “Mae’r Urdd am sicrhau bod Cymru a’r Gymraeg yn cael effaith gadarnhaol yn y byd, ac rydym yn ddiolchgar i’r rheiny sydd wedi ein helpu i rannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2024 mor eang â phosib, o aelodau i gyn-aelodau a chefnogwyr ledled y byd. Heddiw, mae lleisiau ein pobl ifanc wedi cael eu clywed.”