Diwedd mis Hydref bu aelodau Merched y Wawr a’u gwahoddedigion ymgynnull yng Ngwesty Ty’n y Cornel, Talyllyn i ddathlu noson arbennig yn eu hanes, penblwydd cangen Bryncrug yn 50 oed.

A’r gyrraedd y gwesty mor hyfryd a thwymgalon oedd gweld a derbyn croeso a chyfarchion y swyddogion – Gaynor, Bethan, Meinir a Buddug – i bawb i’r dathliad. Gweithred a werthfawrogwyd gan bob un.

Wrth droedio i’r ystafell a ddarparwyd i’r dathlu, sylwodd pawb ar y gacen ddathlu euraidd oedd wedi ei lleoli mewn man amlwg ac ar y byrddau oddeutu i’r gacen roedd llyfrau, cofnodion, cardiau aelodaeth a lluniau gwerthfawr yn cofnodi 50 blynedd o hanes y gangen, digwyddiadau a gweithgareddau di rhif a gyflawnwyd, gan greu atgofion a ddenodd lawer o chwerthin a hiraeth am y rhai annwyl a fu mor gefnogol, ffyddlon a gweithgar tra’n aelodau yn y gangen.

Cafwyd ymateb ardderchog pan ddywedwyd bod y bwrdd bwffe yn barod a phawb yn awyddus i arbrofi peth o’r arddangosfa fwyd.

Ac yn wir cafwyd bwffe blasus a danteithiol yn swyno’r synhwyrau a bu llawer o ganmoliaeth i’r bwyd. Cyn y baned daethpwyd a’r gacen penblwydd i’r bwrdd bwyta i’w thorri gan Mair, llywydd anrhydeddus ac yn aelod o’r dechrau, a Gaynor, llywydd y gangen.

Ymysg pawb roedd y ddwy wraig wadd, sef Geunor Roberts, llywydd cenedlaethol Merched y Wawr a Tegwen Morris, cyfarwyddwr cenedlaethol Merched y Wawr, dwy arbennig a ymdoddodd yn gyfeillgar ymlith pawb ac yn awyddus i ddod i adnabod pawb a gwybod sut y bu i’r gangen gychwyn ac yn ol eu dymuniad cyfeiriodd Gaynor at fwrdd Mair a’i chriw, sef Mair, Delyth, Gwyneth, Avril a Maureen – aelodau cyntaf y gangen.

Mair fu yn gyfrifol am ymateb yn gadarnhaol i syniad Zonia Bowen i gychwyn cangen Merched y Wawr ym Mryncrug ac i Mair ei hunan, Delyth, Maureen a’r diweddar Megan (James) a’r diweddar Nansi (Dolgoch) ddod yn swyddogion cyntaf Cangen Bryncrug.

Cafodd Mair gyfle i olrain tipyn o hanes a darllenodd bennillion pwrpasol a chynhwysfawr wedi eu hysgrifennu yn arbennig i’r dathliad gan Goronwy Williams, Llanegryn.

Ategwyd ychydig storiau diddorol gan Avril, Gwyneth a Maureen. Mawr yw diolch Mair a’i chriw bod y gangen yn mynd ymlaen o nerth i nerth gan ddiolch calon i’r swyddogion gweithgar ac i’r aelodau am bob cefnogaeth a ffyddlondeb.

Cyn cyflwyno’r ddwy wraig wadd, diolchodd Gaynor iddynt am eu presenoldeb i gyd-ddathlu penblwydd 50 cangen Bryncrug.

Gwrandawyd yn astud ar anerchiad amserol a sylwadol Geunor Roberts, y llywydd cenedlaethol, gan fynegu ei gobeithion.

Cafwyd yr un gwrandawiad i sgwrs ddiddorol ac effeithiol Tegwen Morris, y cyfarwyddwr cenedlaethol.

Diolchodd Gaynor i bawb, y gwesty a’i staff am y croeso cynnes a’r bwyd blasus, am drefniant trylwyr Bethan a Meinir, i Mair a’i chriw ac i bob aelod a gyfrannodd i lwyddiant y noson ac yn arbennig i Geunor a Tegwen, gan ddymuno yn dda i’r ddwy.

Edrych ymlaen at gyfarfod nesaf fydd hi rwan sef ymweld a Sioe Gerdd Branwen yn Aberystwyth a’r nos Wener, 17 Tachwedd.

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]