ELENI bydd modd gwylio mwy nag erioed o arlwy Eisteddfod yr Urdd 2024 arlein ar S4C Clic.
Bydd yr holl gystadlu o’r Pafiliwn Coch, y Pafiliwn Gwyn a’r Pafiliwn Gwyrdd yn cael eu ffrydio'n fyw ac yn ecsgliwsif ar S4C Clic gan ddechrau am 8:00 y bore hyd at ddiwedd y cystadlu.
Gallwch wylio’r cyfan ar eich ffôn, tabled neu deledu clyfar. Cofiwch gofrestru gyda Clic o flaen llaw os nad oes cyfri gyda chi’n barod.
Gwasanaeth byw yn unig fydd hwn ac ni fydd ar gael ar alw.
Bydd rhaglen arbennig yn rhoi rhagflas o wythnos o gystadlu, Croeso i Eisteddfod yr Urdd nos Sul 26 Mai, lle bydd uchafbwyntiau o’r sioe Cynradd a’r sioe Ieuenctid ynghŷd â blas o’r ardal a’r paratoadau, gwybodaeth ar sut i gyrraedd y maes a sut i wylio ar holl blatfformau darlledu a chyfryngau cymdeithasol.
Bydd darllediadau dyddiol ar S4C o’r Maes rhwng 10:30 a 18:30, a bydd y rhaglen uchafbwyntiau gyda’r hwyr am 20:00.
Ar gyfer y rheiny fydd yn ymweld â’r Maes ym Meifod, ‘Yr Adlen’ yw’r lle i fynd er mwyn cael gweld sioeau Cyw – a does dim angen tocyn.
Bydd y plant hŷn yn cael modd i fyw yng nghwmni criw Stwnsh fydd yn cynnal amryw o weithgareddau a gemau ar hyd y Maes ac yn Yr Adlen.
Bydd llwyth o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ddyddiol ym mhabell S4C. Diwrnod o weithgareddau i ddathlu Dysgwyr fydd yn y babell ar ddydd Mercher, a bydd dydd Gwener yn ddiwrnod Hansh, y platfform i bobl ifanc.
Ymysg y gweithgareddau ym mhabell S4C bydd disgo tawel, bŵth canu carioci a Sinema S4C.
Yn ogystal â chyfle i wylio prif seremonïau’r dydd yn fyw yn Sinema S4C, bydd dangosiadau o raglenni fel Deian a Loli, Dreigiau Cadi, Tanwen ac Ollie, ac Y Coridor, cyfres ddrama newydd i ddisgyblion oed ysgol uwchradd.
Bydd Siop S4C ar y stondin hefyd, gyda dillad, teganau meddal a nwyddau Cyw, Stwnsh a Hansh. System taliad di-arian fydd yn cael ei gweithredu ar y stondin.
Mae croeso cynnes i Eisteddfodwyr alw draw i babell S4C i ddysgu mwy am raglenni’r sianel a sut i wylio ar ein gwahanol blatfformau.
Trystan Ellis-Morris a Heledd Cynwal fydd yn rhoi blas o ddigwyddiadau’r dydd gan gynnwys yr holl ganlyniadau, cyffro’r Maes a chynnwrf gefn llwyfan, ac yn ymuno â nhw bydd Mari Lovgreen, Alun Williams a Lili Beau.
Meddai Heledd Cynwal: “Un o’r pethe’ dwi’n mwynhau fwya’ am Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn yw gwreiddioldeb.
“Mae’r ffordd ma’ nifer o’r hyfforddwyr a’r cystadleuwyr yn mynd ati i ddehongli themau'r cystadlaethau yn aml iawn yn eich arwain chi ar daith wahanol i’r hyn y byddech chi yn ei ddisgwyl…sydd yn y pendraw yn agor ein meddylie’ ni, ac yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc i hedfan!
“Mae’n destun balchder hefyd i ni fel cenedl wi’n credu, i weld sut mae’r Urdd yn llwyddo’n flynyddol i ddatblygu, ac i esblygu i fod yn fudiad sy’n cynnwys ac yn cynnig cyfle i bawb!”
Mae Mari Lovgreen yn byw yn ardal yr Eisteddfod eleni fydd yn dod â’r holl ganlyniadau: “Dwi ar dân i rannu’r holl ganlyniadau eto eleni yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd! Fel mam i ddau sydd wedi cystadlu, dwi’n gwbod pa mor amhosib bron ydi cyrraedd y tri uchaf drwy’r wlad.
“Fydd hi’n un parti mawr ar y llwyfan canlyniadau! Fydd hi chydig bach fwy sbeshal leni hefyd gan mod i ond yn byw saith milltir o’r maes ac felly wedi bod yn rhan o gynnwrf yr ardal ers sbel rwan - mae ‘na hen edrych ‘mlaen! Mae Mwynder Maldwyn yn barod amdanoch chi.”