MAE hi’n 7yh ar nos Fercher ac mae’r glaw yn bwrw eto tu allan i Ganolfan Arad goch fel mae wedi gwneud trwy’r gaeaf.
Ond tu mewn i ffenest fawr y ganolfan ar Stryd y Baddon, Aberystwyth, mae criw o bobl ifanc yn dechrau cyrraedd, tynnu eu cotiau, ac yn gwneud eu ffordd fyny trwy’r adeilad i’r ystafell yn nenfwd yr adeilad.
Maen nhw yno er mwyn cael noson o chwarae gêm Traitors ac i gael cwis cerddoriaeth ar gyfer Dydd Miwsig Cymru.
Maen nhw’n aelodau o Aelwyd Trefechan, sef grŵp ieuenctid yr Urdd ar gyfer pobol rhwng 14-25 oed.
Roedd y syniad ar gyfer sefydlu Aelwyd Urdd ar gyfer pobl ifanc hŷn wedi bod yn meddyliau'r arweinwyr Elin Royles a Rhodri ap Dyfrig ers sbel gan bod y ddau yn teimlo bod angen mwy o gyfleoedd ar gyfer cymdeithasu yn Gymraeg.
Ac er bod Cymdeithas Ffermwyr Ifanc yn gwneud gwaith gwych mewn ardaloedd gwledig, mae llai o gyfleoedd i blant y dref.
Felly, ar ôl ambell i noson i fesur y galw ym mis Mehefin 2023, penderfynodd y ddau fynd amdani a dechrau rhaglen o weithgareddau i redeg o fis Medi 2023 tan fis Mai 2024.
Hyd yn hyn mae mwy nac 20 wedi ymaelodi ac maent wedi trefnu 15 o nosweithiau gan gynnwys taith sgio i Langrannog, gweithdai celf, gemau bwrdd a fideo,cyfle i holi’r cyfarwyddwr enwog Euros Lyn (Heartstopper, Dr Who), noson escape room gyda Jengyd, a gweithdy creu zines.
Mae’r aelodau hefyd wedi trefnu gig dan 18 gyda’r bandiau Tara Bandito a Dadleoli yn rhan o Ŵyl Agor Drysau ar 15 Mawrth yng Nghanolfan Arad Goch.
Mae pawb wedi bod yn brysur yn hyrwyddo a gwerthu tocynnau gan obeithio denu cynulleidfa dda i’r ddau fand sydd wedi enill gwobrau diweddar yng Ngwobrau Selar: Tara Bandito yn ennill Gwobr 2023 a Dadleoli yn ennill Band Newydd Gorau.
Mae Megan Griffiths, Eira MacDonald a Nel Dafis wedi bod yn rhan o’r trefnu a dywedon nhw hyn am y profiad:
“Roedd hi'n brofiad da trefnu'r gig a dysgais lawer am sut i drefnu digwyddiadau yn effeithiol.” - Megan Grffiths
“Wrth greu'r poster sylweddolais faint o waith sy'n mynd mewn i dewis ffontiau a lliwau deniadol.” - Eira MacDonald
“Rydw i wir yn gyffrous i weld Tara Bandito yn canu, a gweld ein holl waith yn dod at ei gilydd!” - Nel Dafis
Mae’r gig yn un di-alcohol ac wedi ei anelu at bobl ifanc oedran uwchradd yn bennaf.
Gallwch brynu tocyn am £5 y person drwy:
neges breifat i Instagram @aelwydtrefechan
ebost at [email protected]
aelodau Aelwyd Trefechan yn yr ysgol
cysylltu ag Arad Goch
Mae digon yn mynd mlaen ac mae croeso i unrhyw un ddod os oes diddordeb. Cysylltwch ar [email protected] neu trwy Instagram @aelwydtrefechan