AIL-GREUWYD un o ddigwyddiadau enwocaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru ar Faes y Brifwyl.
Dechreuodd ymgyrch Merched Beca yn ardal y Preselau pan gynddeiriogwyd ffermwyr a gwerinwyr gan y bwriad i godi tollborth yn Efail-wen yn 1839.
Ymunodd llawer o fobl mewn gorymdaith o amgylch y Maes brynhawn Gwener mewn cynhyrchiad newydd, Beca'n Galw!, gan Theatr Arad Goch sy'n ail-ddychmygu hanes a chwedloniaeth Merched Beca mewn ffordd fywiog a phwerus.
Roedd Eurfyl Lewis, sy'n gyfarwydd iawn a hanes y terfysg yn Efail-wen, wedi cydweithio gyda'r cwmni theatr ac wedi hel dwsinau o ddynion i wisgo fel Merched Beca ac wedi rhuthro drwy'r Maes torrwyd giat i lawr ar y Maes.
Chwaraeodd Thomas Rees, neu Twm Carnabwth, ran allweddol yn yr ymgyrch welodd y werin i wrthryfela yn erbyn system annheg y tollbyrth.
Ar ddechrau’r ganrif, roedd llawer o dollbyrth yng Nghymru’n cael eu rhedeg gan ymddiriedolaethau a oedd i fod i gynnal a gwella’r ffyrdd, gan ariannu hyn o’r tollau.
Fodd bynnag, roedd llawer ohonynt yn codi tollau uchel iawn, ac yna’n gwario’r arian ar bethau eraill.
Dechreuodd y gormes, a deimlwyd gan y ffermwyr, pan brynodd grwpiau amrywiol yr hawl i gasglu tollau’r ymddiriedolaethau.
Gyda chodi’r tollborth yn Efailwen daeth amynedd y ffermwyr i ben ac yn dilyn nifer o gyfarfodydd tanbaid ar fferm ger Mynachlog-ddu, penderfynwyd dinistrio’r tollborth.
Dan orchudd tywyllwch aethant ati i’w falurio gyda morthwylion a bwyelli.
Clywyd y dorf fawr yn cyfeirio at ei gilydd wrth enwau’r menywod a oedd wedi benthyg eu dillad i’r dynion.
Yr enw a glywyd amlaf oedd ‘Beca’, sef Twm Carnabwth.
Roedd y dynion wedi duo eu hwynebau ac wedi gosod blew ceffyl a rhedyn o dan eu boneti.Er bod pris wedi’i osod ar ben Twm pe bai’n cael ei drosglwyddo i ofal yr awdurdodau, ni chafodd ei fradychu erioed.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.