YR wythnos hon mae Alun Davies, yn cyhoeddi nofel newydd, Manawydan: Y Twrch Trwyth, yn yr un gyfres â Manawydan Jones: Y Pair Dadeni a enillodd wobr Tir na n-Og y llynedd.

Dilyna’r ail nofel helyntion y prif gymeriad mud, Manawydan, sy’n ddisgynnydd i un o gymeriadau enwog y Mabinogi – Manawydan Fab Llŷr.

Meddai Alun, sy’n wreiddiol o Aberystwyth ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd: “Dwi'n hynod o gyffrous i bawb gael darllen rhan nesaf stori Manawydan Jones.

“Roedd yn grêt cael mynd nôl i fyd y Cyfeillion a’r Marchogion unwaith eto, a dod â darn gwahanol o'r Mabinogi yn fyw.

“Edrychwch ymlaen at gwrdd â chymeriadau hen a newydd, yn ogystal â brwydro, cynllwynio ac antur sy'n bygwth troi bywyd Manawydan wyneb i waered.”

Daeth y llyfr cyntaf i’r brig yng nghategori uwchradd gwobrau Tir na n-Og yn 2023.

Dywed y wefan Sôn am Lyfra am y gyfrol: “Mae'r awdur yn llwyddiannus wrth greu darn o waith ffuglen sy'n troedio tir ffantasi, hud a lledrith ac antur arallfydol, ond sydd wedi ei wreiddio ym mywyd arferol bob dydd... Mae arddegwyr heddiw yn cael eu sboilio!”

Yn Manawydan Jones: Y Twrch Trwyth mae Manawydan bellach yn byw’n fodlon ei fyd ar Ynys Fosgad ymysg y Cyfeillion a’i ffrindiau pennaf, Alys a Mogs.

Ond daw si ar led bod Gweuflyn, arweinydd y Marchogion, yn ceisio creu fersiwn cyfoes o’r Twrch Trwyth er mwyn achosi dinistr ac anrhefn ar hyd a lled y wlad.

Daw’r Cyfeillion at ei gilydd i geisio ei atal sy’n arwain at gyffro, brad a thollti gwaed.

Dyma nofel hawdd i'w darllen ar gyfer pobl ifanc sy’n rhoi gwedd newydd ar straeon a chymeriadau’r Mabinogi.

Mae hi’n nofel ffantasi, hud a lledrith, lawn antur sydd wedi’i gwreiddio ym mywyd arferol bob dydd. Hawdd iawn yw uniaethu â Manawydan a’i ffrindiau er gwaethaf yr holl ddirgelwch arallfydol.

Mae Alun hedyd wedi cyhoeddi trioleg o nofelau ditectif a’r nofel boblogaidd Pwy yw Moses John?

Yn ei amser hamdden, mae’n mwynhau rhedeg a beicio. Mae’n ddilynwr brwd o dîm pêl-droed Cymru ac yn dad i dri o blant.

Mae Manawydan Jones: Y Twrch Trwyth gan Alun Davies yn cael ei chyhoeddi ar 2 Medi  (£8.99, Y Lolfa).