MAE nofel ffantasi newydd i blant 9-12 oed gan yr awdur arobryn Caryl Lewis wedi ei chyhoeddi. Mae Cwilsyn a’r Genhedlaeth Olaf (Y Lolfa) a addaswyd i’r Gymraeg gan Meinir Wyn Edwards, yn antur gyffrous gyda bydoedd hudol, dreigiau a bwystfilod i’w hymladd.

Mae’r stori wedi ei hysbrydoli gan chwedloniaeth hynafol Cymru, gan gynnwys y Mabinogi a straeon am Annwfn, a’r stori yn frith o elfennau uwchnaturiol. Rhaid i Cwilsyn ddod â’r goleuni yn ôl i’r Uwchfyd, lle mae’n byw, cyn ei bod yn rhy hwyr. Ond i wneud hynny, rhaid iddo fynd ar daith beryglus i’r Isfyd – ac ymladd Brenin y Tywyllwch.

Meddai’r awdur Caryl Lewis: “Daeth ysbrydoliaeth Cwilsyn gan fy meibion – mae’r ddau yn blant meddylgar, tawel. Rwy wedi sylwi nad bechgyn tawel fel fy rhai i sy’n cael bod yn arwyr mewn llenyddiaeth i blant fel arfer, neu nid heb orfod newid pwy ydyn nhw yn gyntaf. Y pŵer tawel yma sy’n gwneud Cwilsyn yn unigryw.”

Mae Cwilsyn felly, er yn fachgen cyffredin – neu efallai oherwydd hynny – yn arwr ychydig yn wahanol i’r arfer. Un sydd yn defnyddio ei bwerau unigryw o gyfeillgarwch a chlyfrwch i drechu dreigiau.

Meddai’r addasydd Meinir Wyn Edwards: “Mae hi bob tro yn braf darllen nofel newydd gan Caryl, ac mae’n brofiad brafiach fyth cael mynd i’r afael ag addasu’r straeon i'r Gymraeg.

“Dyma’r drydedd nofel i fi ei addasu ganddi ac mae Cwilsyn a’r Genhedlaeth Olaf yn tanio’r dychymyg unwaith eto, a bydd plant Cymru wrth eu bodd yn ei darllen. Dyma fyd dreigiau a theithio i fyd hudol lle mae adar yn troi’n bobl, a diferion dŵr yn troi’n geffyl hardd – a’r stori’n carlamu yn ei blaen!”

Mae Cwilsyn a’r Genhedlaeth Olaf yn addas i blant hynaf yr ysgol gynradd ac ieuengaf yr ysgol uwchradd.

Cwilsyn a’r Genhedlaeth Olaf , Caryl Lewis, Y Lolfa, £7.99.