YR wythnos hon cyhoeddir dilyniant hirddisgwyliedig i Pen Dafad. Mae OMB – Dwi’n Banther! gan Bethan Gwanas yn dilyn Menna Morgan, ffrind Dewi, y bachgen oedd yn troi’n ddafad dros nos yn y nofel gyntaf.

Meddai Bethan, o Ddolgellau: “Mae ’na 21 mlynedd rhwng y ddwy gyfrol - ydi hynna’n record am ddilyniant tybed?

“Mae’r arlunydd Sïan Angharad, sydd wedi dylunio’r cloriau yn cofio fi’n mynd i’w hysgol gynradd hi ym Moelfre ers talwm i sôn am lyfrau. Hyfryd ei bod hi’n rhan o dîm OMB a Pen Dafad rŵan!”

Yn OMB – Dwi’n Banther! mae Menna, sydd bellach yn 16 oed, yn sylwi ei bod yn fwy blewog ac yn dechrau tyfu pedwar dant hir, miniog. Ac mae Dewi yn siŵr ei fod o wedi sylwi ar siâp cynffon ar ei phen-ôl hi! Ond pan ddaw Dewi i’r ysgol efo cap gwlân chwyslyd ar ei ben, buan mae’r ddau yn sylweddoli fod yr hen felltith yn ei ôl arno yntau.

Ychwanegodd Bethan: “Fyddai’r llyfr hwn ddim yn bod oni bai am Dylan Parri, oedd yn ddirprwy Ysgol Gynradd Bethel yn 2024.

“Roedd Blwyddyn 6 yr ysgol yn fythgofiadwy - roedden nhw newydd ddarllen Pen Dafad ac yn llawn bwrlwm a chwestiynau, ac yn crefu arna i i sgwennu dilyniant. ‘Allech chi sgwennu o safbwynt Menna,’ medden nhw, ‘yr hogan sy’n troi’n banther - pan mae’r ddau ’chydig hŷn, oed TGAU neu rywbeth, ac yn troi’n anifeiliaid eto.’ Er i’r syniad apelio’n syth, mae hi wedi cymryd tan rŵan i mi gael y cwbl i weithio.”

Ynghyd â chyhoeddi’r nofel newydd, mae Pen Dafad hefyd wedi ei diweddaru a’i chyhoeddi mewn argraffiad newydd.

Mae OMB – Dwi’n Banther a Pen Dafad gan Bethan Gwanas ar gael nawr (£6.99 yr un, Y Lolfa).