MAE ae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Bil y Gymraeg ac Addysg, gyda'r nod o roi cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru siarad Cymraeg yn annibynnol ac yn hyderus erbyn 2050, beth bynnag fo'u cefndir neu eu haddysg.

Ar hyn o bryd, mae gallu disgyblion i siarad Cymraeg yn amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar ba ysgol y maent yn ei mynychu. Bydd y Bil yn mynd ati i gau’r bwlch o ran gallu disgyblion yn y Gymraeg.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles: "Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae'r cynigion hyn yn ymwneud â rhoi cyfle tecach i blant a phobl ifanc ddod yn siaradwyr Cymraeg.

“Mae cefnogaeth eang i'n gweledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg, a heddiw, rydym yn cymryd cam hanfodol tuag at wireddu'r uchelgais honno.

"Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i adeiladu Cymru lle mae'r Gymraeg yn ffynnu ym mhob cymuned, a lle gall pob un fod yn falch o'u treftadaeth a'u sgiliau dwyieithog neu amlieithog."

Mae'r Bil hefyd yn mynd ati i sicrhau bod addysg drochi Gymraeg ar gael ar draws Cymru.

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Mae ein dull o drochi dysgwyr yn y Gymraeg yn unigryw i ni yng Nghymru, ac rwy'n ymfalchïo yn yr hyn y mae ein hathrawon yn ei wneud bob dydd.

“Mae’r Bil yn brosiect hirdymor a byddwn yn parhau i gefnogi ein hysgolion i gyflwyno mwy o Gymraeg i'w gweithgareddau."

Mae'r gefnogaeth i ysgolion yn cynnwys gweithio gyda’r sector i gynyddu nifer yr athrawon all weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, datblygu sgiliau iaith y gweithlu presennol, a darparu deunyddiau dysgu Cymraeg.

Dywedodd Lisa Jenkins, Uwch Bennaeth Cynorthwyol Ysgol Stanwell: “Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i wneud ein dysgwyr yn hyfedr yn y Gymraeg ac wedi buddsoddi'n sylweddol mewn hyrwyddo manteision dwyieithrwydd.

“Ers 2023 mae wedi bod yn un o'n blaenoriaethau gwella ysgol ac mae'n ffocws ar lawer o'n gwaith o ran datblygu safonau, gwerthoedd a sgiliau.

“Rydyn ni wedi addasu ein hamserlen i gynyddu nifer y gwersi Cymraeg ym Mlynyddoedd 7 ac 8 i sicrhau eu bod yn cael eu trochi yn yr iaith yn amlach ac rydym yn awyddus i recriwtio siaradwyr Cymraeg i gefnogi yn ein gweledigaeth hirdymor.”