MAE Arad Goch wedi penodi Sara Gibson yn gadeirydd newydd bwrdd rheoli Arad Goch gan olynu Dr Elin Haf Gruffydd Jones, sydd wedi camu i lawr ar ôl saith mlynedd o arweinyddiaeth ymroddedig a gweledigaethol i'r cwmni.

Mae Dr Elin Haf Gruffydd Jones wedi chwarae rhan allweddol wrth arwain Arad Goch trwy gyfnod trawsnewidiol o fewn y busnes, o dwf artistig ac allgymorth diwylliannol, gan hyrwyddo theatr yn y Gymraeg ac ehangu proffil cenedlaethol a rhyngwladol y sefydliad.

Mae ei rôl wedi'i nodweddu gan arloesedd ac ymrwymiad dwfn i bŵer y celfyddydau i ymgysylltu â chymunedau ac ysbrydoli pobl ifanc.

Meddai Nia Wyn Evans, cyfarwyddwr busnes Arad Goch: “Rydym ni fel cwmni wedi bod mor ffodus i gael arweiniad cadarn Elin dros y 7 mlynedd diwethaf – cyfnod sydd wedi bod yn heriol o ran Covid, ariannu, a newidiadau i’r cwmni.

“Mae Elin wedi ein harwain yn gadarn drwy’r heriau, ac wedi cyfrannu’n helaeth at ymestyn cysylltiadau Arad Goch yng Nghymru ac ar draws y byd.

“Diolch yn fawr iawn iddi am yr holl mae wedi ei wneud i’r cwmni. Rydym yn gyffrous iawn i'r bennod nesaf yma ac i gyd weithio gyda Sara fel cadeirydd.”

Theatr Arad Goch yn Aberystwyth
Theatr Arad Goch yn Aberystwyth (Theatr Arad Goch)

Yn olynu Dr Elin mae Sara Gibson sydd â chefndir sy’n cwmpasu’r celfyddydau, addysg ac arweinyddiaeth ddiwylliannol.

Meddai: “Mae'n anrhydedd ac yn bleser mawr gen i gael fy mhenodi'n gadeirydd Cwmni Theatr Arad Goch - cwmni sydd â lle arbennig iawn yn fy nghalon.

“Diolch i'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones am ei gwaith arbennig yn cadeirio'r Bwrdd dros y 7 mlynedd diwethaf, ac rwy'n falch y bydd hi'n parhau i fod yn aelod allweddol o'r Bwrdd.

“Des i ar draws Arad Goch gyntaf 28 mlynedd yn ôl wrth weithio gyda Theatr Gorllewin Morganwg, ac rydw i wedi dilyn ei daith gydag edmygedd byth ers hynny, gan ddod yn aelod balch o'r bwrdd 11 mlynedd yn ôl pan symudon ni fel teulu i Aberystwyth.

“Mae ei ymrwymiad i greu theatr ddychmygus o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc — yn y Gymraeg a'r Saesneg — yr un mor ysbrydoledig ag y bu erioed.

“Fel mam i dri o blant, rwy'n gwybod o brofiad uniongyrchol pa mor bwerus mae profiadau creadigol wrth siapio meddyliau ifanc, ac agor y byd iddyn nhw.

“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gefnogi'r bennod gyffrous nesaf yn nhaith y cwmni dwyieithog, rhyngwladol gwych hwn, ac i gefnogi'r tîm arweiniol wrth i ni anelu am ein penblwydd mawr yn 40 oed ymhen 4 mlynedd.”

Bydd Sara yn cadeirio ei chyfarfod cyntaf yn fis Ionawr.

Diolchodd Dr Elin Gruffyddi holl aelodau’r Bwrdd am eu hymroddiad unwaith eto eleni.

“Mawr yw ein diolch fel Bwrdd i’n cyllidwyr am barhau i fuddsoddi yn y gwasanaeth pwysig hwn.

“Nid moethusrwydd i rai yw profiadau creadigol Cymraeg a dwyieithog i blant a phobl ifanc, ond arwydd o gymdeithas war sy’n cefnogi cyfleoedd i bawb, gan roi lle priodol i theatr mewn ysgolion ac mewn cymunedau.

“Yn wyneb heriau i’n gwerthoedd democrataidd, mynnwn hir oes i‘godi drych profiad ac agor drws dychymyg.”